Gorlifoedd Carthion Cyfun (CSOs)

 

 

Barn Afonydd Cymru ar CSOs

Mae Afonydd Cymru yn pryderu am bob ffynhonnell lygredd sy’n effeithio ar ein hafonydd yng Nghymru. Gall Gorlifoedd Carthion Cyfun (CSOs) achosi llygredd a mwy o lwytho microbaidd yn enwedig ar ôl cyfnodau o law trwm. Lle mae hyn yn digwydd, byddem yn annog adrodd i Dŵr Cymru (DCWW) ar eu Llinell Gymorth Llygredd 08000853968 gan ei bod yn bwysig bod CSOs problemus yn cael eu cywiro’n gyflym. Fodd bynnag, o’r dystiolaeth yr ydym wedi’i harchwilio, o ddata monitro Cyfoeth Naturiol Cymru a’n harsylwadau wrth gynnal Arolygon Cynefinoedd Afonydd, prin yw’r dystiolaeth gyfredol bod CSOs yn gyfrifol am ddirywiad eang yn ansawdd cyffredinol y dŵr yn afonydd Cymru. Fodd bynnag, hoffem weld mwy o fonitro a gwerthuso effaith amgylcheddol gollyngiadau CSOs, yn enwedig o ystyried amlder uchel rhai CSOs. Cawn ein hannog gan ddull rhagweithiol DCWW a pharodrwydd i weithio gyda ni i fynd i’r afael â’r problemau hyn drwy Gynlluniau Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff (DWMPS) a Fframwaith Asesu Gorlifo Storm (SOAF) a thrwy ei raglen fuddsoddi (gweler isod). I gymharu â rhan fwyaf o gwmnïau dŵr yn y DU, mae DCWW wedi bod ar flaen y gad o ran mynd i’r afael â mater CSOs ac mae wedi cyhoeddi data’n agored ar berfformiad eu CSOs.

 

Y cwestiwn mawr yw a ddylem, yn yr 21ain ganrif, barhau â system garthffosiaeth sy’n rhyddhau i’r amgylchedd naturiol heb driniaeth lawn? Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y byddai newid y system yn costio nifer o biliynau o bunnoedd, yn creu aflonyddwch enfawr, yn enwedig mewn ardaloedd trefol ac yn cymryd nifer o flynyddoedd i’w wneud. Byddai’r cyllid bron yn sicr yn dod o filiau dŵr uwch ac nid yw gallu a pharodrwydd y cyhoedd i dalu am hyn yn sicr. Yn y cyfamser, credwn mai’r dull presennol o weithredu dim CSOs newydd, ymchwilio’n gyflym a gorfodi yn erbyn CSOs llygredig, a gweithredu DWMPs yw’r ffordd orau ymlaen.

Mater ychwanegol i’w ystyried yw effeithiau posibl gollyngiadau CSOs ar iechyd pobl, yn enwedig mewn perthynas â nofwyr gwyllt, canwyr a physgotwyr. Y realiti yw y bydd llwytho bacteriol mewn afonydd yn dod o lawer o ffynonellau e.e. O da byw a thanciau septig i enwi dau yn unig. Byddem yn cefnogi mwy o ymchwil i effeithiau posibl CSOs ar iechyd, a system i rybuddio defnyddwyr dŵr pan fydd gollyngiadau CSO mawr yn digwydd, a datblygu Dyfroedd Ymdrochi Mewndirol dynodedig ar gyfer nofwyr gwyllt lle caiff safonau ansawdd dŵr eu gosod a’u monitro’n rheolaidd.

Bydd Afonydd Cymru yn parhau i gymryd diddordeb mawr mewn CSOs a’u heffeithiau ar iechyd ein hafonydd a’r bobl sy’n eu defnyddio, fodd bynnag, ein prif flaenoriaeth ar hyn o bryd yw mynd i’r afael â llygredd amaethyddol a fydd, yn ein barn ni, yn newid y dirywiad yn iechyd ein hafonydd yn gyflymaf.

Gwybodaeth Gefndir

Gorlifo Carthffosydd Cyfun yng Nghymru

Mae Afonydd Cymru yn ymroddedig i wella ansawdd dŵr a bioamrywiaeth afonydd Cymru. Rydym yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan atebion a thystiolaeth ac rydym am sicrhau bod dealltwriaeth glir o hanes Gorlifoedd Carthion Cyfun(CSOs), sut y caiff y rhain eu gweithredu a’u rheoleiddio, eu heffaith amgylcheddol yn ogystal â sut y gellir eu gwella.

Beth yw CSOs?

Cynlluniwyd CSOs yn oes Fictoria i atal carthion rhag mynd nôl mewn i gartrefi pobl, drwy ganiatáu i’r system garthffosiaeth ollwng i’n hafonydd pan ragorir ar ei gynhwysedd, math o falf gwasgedd. Gall y gollyngiadau hyn gynnwys carthion sydd ond wedi’u sgrinio, ond nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod yr amgylchedd wedi’i ddifrodi oherwydd yn y rhan fwyaf o achosion mae gollyngiadau o’r fath yn digwydd o dan amodau llif uchel pan fo’r gwanhau’n uchel. Mae rhagor o wybodaeth am CSOs a sut mae’r rhain yn gweithredu ar gael yn:

https://www.dwrcymru.com/en/our-services/wastewater/combined-sewer-overflows

Pwy sy’n gyfrifol am weithredu a rheoleiddio CSOs?

Dŵr Cymru (DCWW) yw’r corff sy’n gweithredu’r system garthffosiaeth yng Nghymru a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw’r corff sy’n gyfrifol am reoli eu defnydd. Rhoddir caniatâd i bob gorlif carthffos cyfun, a DCWW oedd y cwmni dŵr cyntaf yng Nghymru a Lloegr i fonitro eu holl CSOs. Cofnodir amlder sbel yr holl CSOs yng Nghymru hefyd ar wefan DCWW. Mae’r map ynghlwm yn dangos dosbarthiad ac amlder sbel y CSOs yng Nghymru. https://www.theriverstrust.org/what-we-do/is-your-river-fit-to-swim-in/

Faint sy’n cael ei fuddsoddi i wella CSOs?

Mae DCWW wedi gwario mwy nag £1 biliwn ar wella CSOs ers 1990 (nid yw hyn yn cynnwys costau cynnal a chadw). Mae’r canlynol yn dangos y buddsoddiad a wnaed gan DCWW yn ystod y Cyfnodau Rheoli Asedau (AMPs) dilynol

  • AMP3 (2000-2005) £471m yn welliant CSOs
  • AMP4 (2005-2010) £400m yn welliant CSOs
  • AMP5 (2010-2015) £47m yn welliant CSOs
  • AMP6 (2015-2020) £125m sy’n cynnwys buddsoddi i leihau gollyngiadau yn LLwchwr
  • AMP7 (2020-2025) buddsoddiad arfaethedig o £82m ar wella CSOs (gyda £25m ychwanegol ar wellianau i asedau a wellwyd yn flaenorol gyda Thoriadau Sbardun felly yn dechnegol dim ond eu had-dalu i’r hyn y dylent fod).

Codir yr holl fuddsoddiad hwn o filiau dŵr deiliaid y cartref.

Ar hyn o bryd mae DCWW yn ymchwilio i effaith amgylcheddol y CSOs sy’n cael eu gollwng amlaf drwy’r Fframwaith Asesu Gorlifo Storm (SOAF), fel rhan o fenter ehangach a elwir yn Gynlluniau Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff (DWMPs). Mae’r cynlluniau hyn, a ddaw’n statudol drwy’r Bil Amgylchedd sydd ar ddod, wedi’u cynllunio i gymryd ymagwedd strategol hirdymor tuag at wella systemau draenio er mwyn lleihau

llifogydd a llygredd gan gynnwys drwy CSOs. Bydd y CSOs hynny sy’n methu â chyflawni ‘statws da’ o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD) yn cael blaenoriaeth.

Esboniad o’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer CSOs

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydsynio i bob CSO. Mae’n ofynnol i bob gorlif storm gydymffurfio â safonau dylunio ac ansawdd dŵr sy’n berthnasol, ac achosi ddim dirywiad i ansawdd presennol y dŵr sy’n derbyn.

Ar hyn o bryd mae rhagdybiaeth yn erbyn caniatáu gorlifo stormydd newydd, oni bai fel rhan o gynllun ehangach sy’n sicrhau gwelliant net mewn ansawdd dŵr.

Cofnod cydymffurfio DCWW mewn perthynas â CSOs

Yn 2019, achosodd CSOs DCWW 15 o ddigwyddiadau lefel isel (Cat 3) yn Lloegr ac 1 yng Nghymru.

Nodwyd bod 10 CSOs allan o gyfanswm o 3000 ddim yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded. Roedd pob achos oedd yn torri amodau yn Gategori 3 (y gellir ei ragweld yn rhesymol i achosi effaith Isel/Mân i’n hamgylchedd a/neu eiddo).

Pa orfodaeth sydd wedi’i chymryd mewn perthynas â CSOs?

Pan fydd CSOs a ganiateir yn achosi digwyddiad, caiff asesiad cydymffurfio ei gynnal yn erbyn y drwydded a chaiff Adroddiad Asesiad Cydymffurfiaeth (CAR) ei gwblhau.

Yn 2019, cyhoeddodd Cymorth Naturiol Cymru 11 CAR i DCWW ar gyfer CSOs oedd ddim yn cydymffurfio.

Yn ogystal, rhoddwyd 6 Rhybudd i DCWW oherwydd bod y CSOs ddim yn cydymffurfio. Hefyd darparir cyngor ac arweiniad a’i gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd. Mae un CAR dal dan archwiliad.

Pa effaith amgylcheddol y mae CSOs yn cael, a sut mae’r rhain yn effeithio ar gyrraedd Statws Ecolegol Da o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD)?

Mae ymchwiliadau WFD wedi nodi 32 gyrff dŵr lle nodir fod gollyngiadau carthion ysbeidiol yn rhan o’r rheswm dros ddiffyg cyflawni Statws Ecolegol Da. Methodd y cyrff dŵr hyn i gyd am sawl rheswm. Fodd bynnag, dylid nodi:

  • Ni chadarnhawyd unrhyw un o’r methiannau.
  • Mae 8 yn debygol gyda 5 yn cael eu hystyried yn bwysau mawr.
  • Amheuir 24 gyda 5 yn cael eu hystyried yn bwysau mawr.

Bydd ymchwiliadau SOAF yn ystod AMP7 yn darparu monitro a thystiolaeth bellach o effeithiau CSOs sydd â sbel uchel.

Bu cwmnïau dŵr yn gosod Monitro Hyd Ddigwyddiadau drwy gydol AMP6. Mae DCWW wedi gosod monitorau ar eu holl CSOs (tua 3000 o asedau, ar ddiwedd mis Mawrth 2020).