Ebrill 2024
Yn nyfroedd tywyll, mawnog afon yng Ngogledd Cymru ceir creadur yn byw y dywedir iddo fod yn un o’r rhesymau pam y daeth y Rhufeiniaid i’n glannau gyntaf. Yn yr ail ganrif OC, ysgrifennodd yr hanesydd Suetonius fod dau gyrch Julius Cesar ar Brydain yn 55 a 54CC wedi’u hysgogi gan chwilio am fetelau gwerthfawr ac, yn benodol, gan ddiddordeb mawr yr Ymerawdwr mewn perlau.
Ar y pryd, roedd misglod perlog yr afon (Margaritifera margaritifera) yn gyffredin ledled gogledd a gorllewin Prydain, gan gynnwys mewn sawl afon yng Nghymru. Er mai dim ond un ymhob sawl mil o misglod perlog yr afon sy’n cynnwys perl, bu ecsbloetio masnachol ar raddfa eang ohonynt hyd at y 1800au. Mae Coron yr Alban (a wnaed ym 1540) yn cynnwys chwe deg naw o berlau dŵr croyw, arwyddion efallai o amlder cymharol y molysgiaid bryd hynny a gallu’r frenhiniaeth ganoloesol i ddwyn cyfoeth.
Afon Eden gyda’r Rhinogydd yn y cefndir. Llun: Fishing Passport
Misglen perlog yr afon (Margaritifera margaritifera) yn yr Afon Eden. Llun: Hollie Harmsworth
Afon Eden o’r awyr. Llun: Hollie Harmsworth
Taflen ffeithiau Afon Eden.
Yn sownd i welyau tywodlyd neu raean mewn afonydd cyflym, llawn ocsigen a glân, maemisglod perlog yr afonyn rhywogaeth hynod ddiddorol a all fyw am ymhell dros 100 mlynedd. Yn y gwanwyn a dechrau’r haf, mae pob misglen perlogbenywaidd sy’n oedolyn yn rhyddhau hyd at bedair miliwn o larfa i’r dŵr.
Pan gânt eu hanadlu i mewn gan eog neu frithyll sy’n mynd heibio, mae’r larfa hwn yn glynu wrth dagellau pysgodyn, lle maent yn aros (heb, yn ôl pob golwg, niweidio’r pysgodyn) cyn cwympo i ffwrdd hyd at 10 mis yn ddiweddarach.
Wrth fudo i fyny’r afon i fridio yn hwyr yn yr hydref a’r gaeaf, anaml y bydd y salmonidau yn yr un lleoliad erbyn i’r larfa fod yn barod i ddatgysylltu ac i ddechrau’r cam nesaf yn eu cylchred bywyd.
Mae’r dull atgenhedlu hwn yn ymddangos yn un synhwyrol. Yn anffodus serch hynny, mae misglod perlog yr afonbellach ar Restr Goch rhywogaethau’r IUCN ac fe’u dosbarthir fel rhai sydd mewn perygl difrifol ar draws Ewrop.
Er bod yr Alban yn parhau’n gadarnle, dim ond mewn llond llaw o afonydd yng Nghymru y maent bellach yn bodoli. Credir mai pysgota perlau, llygredd, asideiddio, cyfoethogi organig, siltio, newid hinsawdd a niferoedd gostyngol o salmonidau yw’r prif ffactorau dros eu dirywiad. Y nifer fechan o misglod perlog yr afonyn Afon Eden yw unig boblogaeth hyfyw Cymru bellach.
Afon Eden
Mae tarddiad yr afon ychydig i’r de o Lyn Trawsfynydd, ac oddi yno mae’n llifo i gyfeiriad y de am oddeutu saith milltir cyn ymuno â’r Afon Mawddach yng Nganllwyd. O ran cymeriad, mae’n ychydig fel afon “cildro”– mae’r rhannau uchaf yn llifo’n gymharol araf tra bod y rhannau isaf yn plymio’n fwy serth trwy geunant creigiog.
Mae’r Afon Eden yn Ardal Gadwraeth Arbennig (ACA) ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ar hyd ei hyd, gyda’i dynodiad ACA yn bennaf ar oherwydd misglod perlog yr afon a’r llyriad-y-dŵr arnofiol (Luronium natans). Mae nifer o’i llednentydd yn llifo oddi ar ochrau dwyreiniol mynyddoedd y Rhinogau, gan roi dŵr ychydig yn asidig i’r Eden – rhywbeth y mae misglen perlog yr afon yn ymddangos i’w ffafrio.
Achub misglod perlog yr afon
Bu ymdrechion diweddar i adfywio ffawd y rhywogaeth, gan gynnwys y prosiect ehangach “Perlau mewn Perygl LIFE+ GB” a ariannwyd gan Ewrop o 2012 i 2016. Ond yn fwy diweddar, mae Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb i i achub poblogaeth fechan ond bwysig misglod perlog Afon Eden.
Ym mis Ionawr 2023 a chyda chyllid gan Lywodraeth Cymru/Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri ac LNP Cymru, lansiodd yr ymddiriedolaeth brosiect i helpu poblogaethau salmonid ar draws dalgylch Mawddach.
Yn ogystal â’u dibyniaeth ar y pysgod ar gyfer atgenhedlu, mae misglod perlog yr afon yn mwynhau amodau afon tebyg i salmonidau – dŵr oer, glân gyda gwelyau afonydd nad ydynt wedi’u gorchuddio â silt. Felly, bydd y camau a gymerir gan Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru yn y prosiect yn helpu misglod perlog yr afon hefyd. Mae hyn yn arbennig o wir wrth atal siltio, sy’n arbennig o niweidiol i misglen perlog ifanc os cânt eu gorchuddio gan ormod o waddod mân.
Mae’r ymddiriedolaeth wedi cynnal arolygon i ddarganfod ble yn union maemisglod perlog yr afon, fel y gellid cadw’r aflonyddwch i’r lleiafswm. Mae eu lleoliadau yn gyfrinach a gedwir yn ofalus gan fod pysgota perl anghyfreithlon yn dal i fod yn risg, hyd yn oed os yw’r siawns o ddod o hyd i un (heb sôn am un gyda pherl ynddo) yn hynod o isel. Maent hefyd wedi gosod ffensys a phympiau solar ar gyfer cafnau dŵr i gadw da byw allan o’r afon ac felly atal difrod i’r glannau, cyfoethogi’r dŵr, cywasgu graean a lleihau siltio.
Adlenwi graean ar Afon Eden (chwith uchod) i greu cynefin newydd i salmonid ifanc a misglod perlog yr afon. Hyd yn hyn, mae Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru wedi cyflwyno 200 tunnell o raean newydd i’r afon, yn ogystal ag ailgyflwyno 200 o greigiau a dynnwyd yn flaenorol (uchod ar y dde) i normaleiddio’r llif.
Gwaith Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru, Afon Eden
- Cyflwynwyd dros 200 tunnell o raean newydd
- Ailgyflwynwyd dros 200 o greigiau
- Tynnwyd un gored oedd yn rhwystr i fudo pysgod
- Dros 4km o lan yr afon wedi’i ffensio gyda stribed byffer o 10m
- Ffosydd draenio wedi eu rhwystro (i adfer llif naturiol)
- Arolygon mawn wedi’u cwblhau
- Dros 1,500 o goed wedi’u plannu
- Monitro rheolaidd o all-lif CSO
- Arolygon snorclo parhaus ac arolygon cynefinoedd afonydd ar gyfer y gymuned leol
- Arolygon electrobysgota ar y gweill i asesu effaith graean llynedd
Ac ar y gweill:
- Llyfr stori a gyhoeddwyd yn ddiweddarach yn 2024 am drafferthion misglod perlog yr afonyr eog a’r sewin wedi ei ysgrifennu gyda phlant ysgol leol mewn partneriaeth â Chymdeithas Pysgota Prysor.
Maent hefyd wedi cyflwyno dros 200 tunnell o raean afon newydd a 200 o gerrig mawr i normaleiddio llif y dŵr. Gall y gwelyau graean newydd gael eu defnyddio gan misglod perlog yr afonfel cynefin a chan bysgod salmonid ar gyfer silio, gydag arolygon electrobysgota yn asesu’r effaith.
Yn ogystal, mae dros 1,500 o goed collddail wedi’u plannu ar hyd glannau’r afon i reoleiddio tymheredd y dŵr yn well ac i ddarparu’r deunydd pren marw sy’n hanfodol ar gyfer ffyniant poblogaethau pysgod. Er bod Afon Eden yn un o’r ychydig afonydd ACA Cymru sy’n cyrraedd ei thargedau ffosffad ar hyn o bryd, mae Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru hefyd wedi dechrau rhaglen fonitro gynhwysfawr ar danciau septig gan godi ymwybyddiaeth yn lleol am bwysigrwydd eu cynnal a’u cadw’n effeithiol.
Er y bydd cynlluniau bridio mewn caethiwed Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio ailsefydlu poblogaethau yn yr Eden ac afonydd eraill yng Ngyymru, mae’r ymddiriedolaeth yn gobeithio y bydd y mesurau hyn gyda’i gilydd yn ddigon i helpu i achub misglod berlog yr afon.
Y rhan isaf o Afon Eden, lle mae’n afon llawer mwy serth a chyflymach. Llun: Cymdeithas Pysgota Prysor drwy The Fishing Passport
Diolch iYmddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru am eu cymorth ac i Hollie Harmsworth am y ffotograffiaeth.
Postio:
April 25, 2024

