Mae Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru (Ymddiriedolaeth Afon Dyfrdwy gynt) yn Elusen Gofrestredig (rhif 1127999).
Amcanion yr Ymddiriedolaeth yw amddiffyn, cadw, hyrwyddo a gwella Afon Dyfrdwy a’i holl rywogaethau cynhenid o bysgod, anifeiliaid, adar a phlanhigion a lle bo’n briodol, ceisio adfer unrhyw un o’r rhywogaethau hynny sydd dan fygythiad neu mewn perygl.
Yn ail, cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o angen a phwysigrwydd amgylchedd afon iach a’r angen am reoli dŵr yn briodol.