Afon Elái

Un o afonydd diwydiannol De Cymru, roedd afon Elai ar un adeg mor llygredig nes ei bod yn troi'n goch weithiau, yn ôl pob golwg. Mae ansawdd ei dŵr yn gwella ond mae glannau'r afon yn gartref i wenwyn marwol arall ...

Afon Elái

Hydref 2023

Mae Afon Elái(neu Afon Ely yn Saesneg) yn afon gymharol fyr ac yn bennaf drefol yn Ne Cymru. Yn anarferol ar gyfer afonydd yr ardal, nid oes ganddi gronfa ddŵr yn ei blaenddyfroedd; yn hytrach, mae’n tarddu o’r bryniau i’r gogledd o Donyrefail (Mynydd Penygraig, Mynydd y Gilfach a llethrau Mynydd Dinas), gan lifo i’r de-ddwyrain tua Chaerdydd. Cyn iddi basio o dan yr M4, mae Afon Elái yn llifo trwy Bont-y-clun, lle mae ei llednant fwyaf, y Clun, yn ymuno â hi.

Yna mae’r afon yn troelli ei ffordd drwy dir fferm cyn pasio ymylon gorllewinol prifddinas Cymru ac, tua 24 milltir o’i tharddiad, mae’n llifo i mewn i ochr dde-orllewinol Bae Caerdydd ym Marina Penarth, ychydig y tu mewn i’r morglawdd.

Ar ôl iddi basio o dan draffordd yr M4 ger Meisgyn, mae’r Elái yn llifo drwy ddarn o dir fferm cyn cyrraedd cyrion Caerdydd. Llun: Nick Russill trwy Unsplash.

Dylai unrhyw un sy’n poeni am gyflwr presennol afonydd Cymru godi calon wrth glywed stori’r Elái. Dyma afon sydd wedi wynebu ei chyfran deg o broblemau dros y ganrif a hanner diwethaf, a dweud y lleiaf. Er ei bod dal yn un o’r afonydd mwyaf llygredig yng Nghymru, roedd ansawdd dŵr yr Elái 150 o flynyddoedd yn ôl mor wael ag y gall fod.

Nodwyd rhwystrau i fudo pysgod fel problem i’r afon mor bell yn ôl â chanol y 1800au. Fodd bynnag, fel llawer o ddyfrffyrdd yn Ne Cymru, ehangu diwydiant trwm a’r lefelau uchel o lygredd cysylltiedig a achosodd y difrod mwyaf i’r Elái. Cymysgwyd dŵr gwastraff o’r diwydiannau glo, metel a phapur â llygredd carthffosiaeth, gan droi dŵr yr afon yn goctel cemegol lliwgar yn ystod rhannau helaeth o’r cyfnod Fictoraidd. Ac yn wahanol i lawer o afonydd diwydiannol eraill mewn mannau eraill yn y DU, roedd y ffynonellau llygredd hyn yn dechrau’n uchel yn y dalgylch, gan roi ychydig iawn o loches i fflora a ffawna’r afon.

Melin Bapur Trelái ym 1947. Ar ddiwedd y 1800au, roedd y gweithfeydd yn gollwng llawer iawn o ganyddion i mewn i’r Afon Elái (y gellir ei gweld yn mynd heibio o flaen y ffatri), gan ddirywio ansawdd dŵr yr afon, a oedd eisoes yn ofnadwy, ymhellach. Daeth y gweithfeydd i ben yn y pen draw yn 2000. Llun: Casgliad y Werin Cymru

Yn oes Fictoria, adeiladwyd Doc Penarth sylweddol ei faint,wrth aber yr Elái, lle mae Marina Penarth wedi’i leoli heddiw. O’r fan hon y cychwynnodd llong enwog Isambard Kingdom Brunel, yr SS Great Britain, am Ynysoedd y Falkland ym 1886, ar ei  mordaith olaf. Mae’r paentiad hwn yn dangos yr ymadawiad. Casgliad y Werin Cymru

Taflen ffeithiau Afon Elái i’w lawrlwytho

Blodyn prydferth y planhigyn Cwcwll y Mynach gwenwynig iawn (Aconitum anglicum), y mae rhan 12km o Afon Elái wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ar ei gyfer. Mae prosiect RePrEEV Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru gyda chymorth y Loteri Genedlaethol yn gwella cynefin Cwcwll y Mynach (a fflora brodorol arall) ar hyd yr Elái. Llun: Josie Weiss trwy Unsplash

Blodyn prydferth y planhigyn Cwcwll y Mynach gwenwynig iawn (Aconitum anglicum), y mae rhan 12km o Afon Elái wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ar ei gyfer. Mae prosiect RePrEEV Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru gyda chymorth y Loteri Genedlaethol yn gwella cynefin Cwcwll y Mynach (a fflora brodorol arall) ar hyd yr Elái. Llun: Josie Weiss trwy Unsplash

Adeiladwyd Melin Bapur Threlái ddechrau’r 1870au ar lannau’r afon, ac roedd yn ffynhonnell lygredd enwog, gyda honiadau ei bod yn gollwng cannoedd o dunelli o glorid calch (cannydd) a chemegau eraill i mewn i’r Elái. Hyd at 1884, adroddwyd hefyd bod yr afon yn tewhau ac yn troi’n gochlyd o ganlyniad i ollyngiadau ddwywaith yr wythnos o asid sylffwrig o fwynglawdd haearn sylweddol Mwyndy yn Llantrisant. Oherwydd graddiant is a llif arafach, roedd yr Elái yn llai addas i ddelio â lefelau’r llygryddion a dderbyniwyd, ac erbyn 1885, adroddwyd ei bod mor wenwynig fel bod anifeiliaid fferm yn gwrthod yfed ohoni.

 Dechreuodd ymdrechion i lanhau afon Elai ynghyd ag afonydd cyfagos eraill yn y 1860au, yn bennaf oherwydd pryderon ynghylch iechyd pobl leol yr oedd eu cyflenwadau dŵr yn dibynnu arni. Heb fudd offer gwyddonol modern, byddai’r dulliau o brofi ansawdd dŵr yn bryd hynny yn ein synnu heddiw. Un oedd rhoi rhai pysgod bach mewn jar o ddŵr afon a gweld pa mor hir y byddent yn goroesi.

Er gwaethaf cynnydd yn allbwn diwydiannol yr ardal, roedd arwyddion bod bywyd gwyllt afon Elái yn dal i ffynnu, o bosib oherwydd yr ymdrechion cynnar hyn i wella ansawdd y dŵr. Ym 1878, adroddodd The Western Mail fod Thomas Noyle wedi cael dirwy o bum swllt am gymryd “eog pinc” (pysgodyn ifanc) o ardal Llantrisant. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, adroddodd y South Wales Daily News fod dyfrgi 27 pwys wedi’i ddal gan geidwad afon lleol o’r enw Danks, ei nawfed dyfrgi yn ôl pob sôn.

Roedd hyd yn oed arwyddion cynnar o welliant. Ar droad y ganrif, ymddengys fod y clerigwyr lleol wedi magu digon o hyder yn nŵr yr Elái i gynnal bedyddiadau ynddi. Yna, yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Pysgota Taf ac Elái ym 1904, adroddodd y pwyllgor fod “…..oherwydd absenoldeb llygredd yn yr Elái……..mae’r rhagolygon ar gyfer pysgota lawer gwell nag y buont ers blynyddoedd lawer.”

Yn anffodus, ni pharhaodd hyn yn hir. Parhaodd ansawdd dŵr yr Elái i fod yn wael iawn am sawl degawd yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Mae rhai o’r problemau a wynebwyd gan adferwyr afonydd Fictoraidd yn dal yn bodoli hyd heddiw. Adroddwyd ar y pryd fod buddiannau masnachol cryf a ffiniau gwleidyddol neu awdurdodaethol lleol yn rhwystro ymdrechion i orfodi rheoleiddio llymach ar lygrwyr Elái.

Gyda diflaniad graddol y diwydiant trwm, dechreuodd yr Elái wella yn ail hanner yr 20fed ganrif. Wrth i ansawdd y dŵr wella, dychwelodd poblogaethau pysgod yn araf o lednenti niferus yr afon. Erbyn hyn, mae’n cynnwys brithyll brown, penhwyaid,draenogiaid,cochiad,  siwed,  carp, llysywod, cangen las a rhai brithyllod môr ac eog. Yn fwy diweddar, adroddwyd fod barfogyn hefyd wedi ymddangos yn y rhannau isaf.

Fodd bynnag, erys bygythiadau llygredd i’r Elái, yn bennaf o waith trin dŵr gwastraff a’r diwydiannau newydd sydd wedi cymryd lle’r ffatrïoedd a’r pyllau glo mawr. Ar hyn o bryd, mae’r brif ffrwd yn methu â chyrraedd y safonau a osodir gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer ansawdd dŵr a physgod,  gyda’r dosbarthiad isaf posibl i afon yng Nghymru. Mae rhai rhwystrau i fudo pysgod yn dal i fodoli yn y rhan uchaf, gyda gwahanol goredau a chwlfertau wedi’u nodi mewn arolygon gan Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru. Mae’r rhain yn gadael poblogaethau pysgod sydd eisoes yn fregus yn hyd yn oed mwy agored i ddigwyddiadau llygredd.

Mae’r afon hefyd o dan fygythiad gan rywogaethau goresgynnol, yn enwedig clymod Siapan ajac y neidiwr; mae’r ddau blanhigyn yn cystadlu’n llwyddiannus â rhywogaethau brodorol ac, yn achos, jac y neidiwr gall achosi erydiad difrifol. Mae cregyn gleision rhesog a berdysyn rheibus hefyd wedi cael eu gweld ym Mae Caerdydd, er nad yw’r un o’r rhywogaethau hyn wedi ymddangos yn yr Elái eto.

Ac er bod etifeddiaeth ddiwydiannol amrwd Afon Elái wedi pylu, mae ffynhonnell fwy prydferth a naturiol o docsin angeuol  yn parhau ar hyd ei glannau. Mae rhan o Ddyffryn Trelái wedi’i dynodi’n SoDdGA oherwydd y planhigyn gwenwynig iawn Cwcwll y Mynachod (Aconitum anglicum), sy’n brin yn y DU a dim ond yn Ne Cymru a De-orllewin Lloegr y credir ei fod yn bodoli yn y gwyllt. Mae pob rhan o’r planhigyn hwn yn cynnwys aconitine, gwenwyn hynod niweidiol sy’n effeithio ar y system nerfol a chardiofasgwlaidd. Gall hyd yn oed cyffwrdd â’r planhigyn achosi problemau. Mae un o’i enwau amgen, “wolfsbane” yn cyfeirio at y defnydd hanesyddol o aconitine ledled Ewrop i ladd bleiddiaid.

Gyda chyllid y Loteri Genedlaethol, mae Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru wedi dechrau prosiect i warchod y Cwcwll y Mynach yn Nyffryn Trelái ac i godi ymwybyddiaeth am ei beryglon. Bydd y prosiect Adfer, Diogelu ac Ehangu Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Dyffryn Trelái (RePrEEV) hefyd yn gwella cynefin ar gyfer rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid brodorol eraill ar hyd glan yr afon.

Golygfa o Fae Caerdydd a’i forglawdd, yn edrych tua’r gorllewin tuag at Marina Penarth, lle’r oedd Doc Penarth ar un adeg. Mae aber yr Elái ar y dde. Llun: Callum Blacoe trwy Unsplash

Cyfeiriadau:

Vitriol in the Taff: River Pollution, Industrial Waste, and the Politics of Control in late Nineteenth-Century Rural Wales.“ Keir Waddington, Cambridge University Press. 19 March 2018.

 

Prosiect RePrEEV, Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru

Diolch hefyd i Tony Rees MBE o Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru am gymorth gyda gwybodaeth.

Postio:

October 26, 2023