Safbwynt Afonydd Cymru
Mewn egwyddor, mae Afonydd Cymru yn cefnogi ailgyflwyno’r afanc yng Nghymru. Fodd bynnag, credwn fod angen dull strategol Cymreig i sicrhau y ceir y mwyaf o’r manteision hynny, y caiff problemau sy’n deillio o’u hailgyflwyno eu lleihau cymaint â phosib, a bod modd cymryd y camau angenrheidiol os bydd problemau’n codi.
Mater allweddol i Afonydd Cymru yw diogelu ein poblogaethau o eogiaid a brithyllod môr – sy’n rhywogaethau gaiff eu gwarchod yn rhyngwladol. Bu dirywiad dramatig yn niferoedd y rhywogaethau eiconig hyn ac yn 2021 cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod mewn perygl ymhob afon yng Nghymru. Credwn ei bod yn hanfodol fod rhywogaeth sydd eisoes wedi’i dynodi’n un dan fygythiad yng Nghymru yn cael ei diogelu, ac mae’n hollbwysig sicrhau nad oes unrhyw newidiadau – boed hynny drwy ailgyflwyno rhywogaethau eraill neu trwy ofynion gwrthgyferbyniol rhywogaethau gwarchodedig, yn peryglu eu goroesiad. Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn mynnu agwedd rhagofalus, ac nid ydym yn credu bod ymchwil ddigonol wedi’i chynnal hyd yn hyn i ddeall yn llawn effaith bosibl ailgyflwyno afancod ar salmonid mudol yng Nghymru. Am yr un rheswm, nid ydym o’r farn y dylid rhoi statws rhywogaeth warchodedig i afancod nes ein bod yn glir ar y gofynion tystiolaeth hyn a bod gennym ddealltwriaeth amlwg o unrhyw broblemau pellach y gallai ailgyflwyno afancod eu hachosi yng Nghymru.
Hoffai Afonydd Cymru weld Fframwaith Rheoli Cenedlaethol ar gyfer ailgyflwyno afancod, yn ogystal â’r broses bresennol o ymgeisio am drwydded. Dylai cynllunio a gweithredu’r fframwaith hwn fod yn gyfrifoldeb corff statudol cenedlaethol sydd â’r adnoddau priodol ac sy’n barod i gydbwyso anghenion afancod ag anghenion rhywogaethau eraill ac, yn bwysicach fyth, yr holl randdeiliaid perthnasol. Byddai’r fframwaith yn pennu ble a faint o afancod y dylid eu hailgyflwyno, gan nodi lleoliadau lle byddent yn ffynnu heb achosi effaith negyddol sylweddol. Dylid osgoi ardaloedd fel ardaloedd silio eogiaid (a’r mynediad iddynt), llynnoedd artiffisial, argloddiau amddiffyn rhag llifogydd ac ardaloedd sy’n agored i lifogydd. Gallai’r fframwaith hefyd archwilio manteision ailgyflwyno afancod a lle gallent gael y budd mwyaf ar gyfer cyflawni mesurau fel rheoli llifogydd naturiol. Rhaid i’r fframwaith ystyried ein hafonydd trawsffiniol a sut y gallai fframwaith cenedlaethol yng Nghymru wahaniaethu o’r dull gweithredu yn Lloegr.
Mae pryder penodol a dealladwy ymhlith ffermwyr, tirfeddianwyr a pherchnogion afonydd ynghylch effeithiau niweidiol posibl a all ddeillio o ailgyflwyno afancod a phwy fyddai’n gyfrifol am ddelio â’r rhain. Hyd yn oed gyda fframwaith rheoli, mae’n anochel y bydd afancod yn ymledu y tu hwnt i’r ardaloedd dynodedig i leoliadau eraill ac achosi effeithiau annisgwyl. Felly, byddem yn disgwyl i unrhyw fframwaith ystyried atebolrwydd a phwy fydd yn gyfrifol am unrhyw effeithiau niweidiol a all godi.
Fel gydag unrhyw weithgaredd trwyddedig yng Nghymru, byddem yn disgwyl i reoleiddio a gorfodi fod ar waith. Felly, rydym yn cefnogi corff rheoleiddio sydd â’r adnoddau priodol a’r pwerau angenrheidiol i orfodi’r fframwaith yng Nghymru. Dylid sicrhau’r cyllid ar gyfer yr adnodd hwn drwy’r Cynllun Codi Tâl Cenedlaethol, a dylai ffioedd trwydded adlewyrchu’r broses o weithredu’r fframwaith, y gwaith o reoleiddio ac o orfodi, yn ogystal â’r costau yswiriant a bennir yn y dyfodol. Rydym yn pryderu bod diffyg llwyr hyd yma o ran unrhyw weithredu gorfodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â rhyddhau afancod yn anghyfreithlon yng Nghymru.
Mae Afonydd Cymru ac ymddiriedolaethau afonydd rhanbarthol Cymru yn gweithio ar gynlluniau rheoli llifogydd naturiol yng Nghymru. Credwn, o dan fframwaith a reolir, y gallai afancod chwarae rhan bwysig fel rhan o’r swyddogaeth hon
Afonydd Cymru, Ionawr 2023