Amdanom ni

Ffurfiwyd Afonydd Cymru yn 2008 fel sefydliad ambarél, ynghyd a  Chyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, i gynrychioli’r ymddiriolaethau afonydd hynny sydd yn aelodau s ledled Cymru. Ar 30ain Ionawr 2012 derbyniwyd statws elusennol (rhif 1145675).

Rydym hefyd yn hyrwyddo’r tri deg tri o afonydd Cymru, ei llynnoedd niferus a’i chyrsiau dŵr llai y mae eu hamgylchedd, eu pysgod a’u pysgodfeydd a’r ystod eang o rywogaethau amrywiol yn dibynnu ar ddŵr glân a chynefinoedd heb eu difetha.

Ein nod yw:

  • Cyfrannu at wella ansawdd cyffredinol yr afonydd.
  • Mudiad Afonydd Cymru a’r ymddiriedolaethau afonydd yng Nghymru sydd yn ehangach ac yn fwy effeithiol, gyda sylfaen ariannu gynaliadwy a hirdymor.”
  • Eirioli dros ddileu’r lefelau uchel bresennol o lygredd dŵr.
  • Dylanwadu ar ddeddfwriaeth, polisi ac arfer perthnasol a’u herio i amddiffyn a gwella amgylchedd dŵr croyw Cymru.
  • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o afonydd a gwaith mudiad ymddiriedolaeth afonydd yng Nghymru.

Mae ein Strategaeth Busnes  newydd yn amlinellu sut y byddwn yn gwneud hyn.

Ein hamcanion elusennol yw:

  • Hyrwyddo addysg y cyhoedd ym maes rheoli dŵr a diogelu’r amgylchedd, cadwraeth, adferiad a gwelliant.
  • Hyrwyddo addysg y cyhoedd o ran dealltwriaeth o afonydd, eu basnau, ffawna a fflora.
  • Diogelu, cadw, adfer a gwella afonydd, nentydd, cyrsiau dŵr a basnau afonydd, gan gynnwys dyfroedd arfordirol cyfagos a chronfeydd dŵr, Cymru neu unrhyw ran neu rannau ohoni er budd y cyhoedd.

Ein Hincwm:

Ein Partneriaid: