Mae “atebion sy’n seiliedig ar natur” (NbS) yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio’r defnydd o systemau naturiol i fynd i’r afael â phroblemau er budd yr amgylchedd a’r gymdeithas ehangach.
O ran afonydd, gall NbS gynnwys creu corsydd i wella ansawdd dŵr neu wella iechyd pridd i leihau’r risg o lifogydd neu sychder eithafol, er enghraifft.
Hyd yma, bu’r defnydd o NbS yn gymharol gyfyngedig. Mae “Prifffrydio Atebion sy’n Seiliedig ar Natur” (MNbS) yn rhaglen a ariennir gan Gronfa Arloesi Ofwat. Mae wedi’i chynllunio i wreiddio’r defnydd o NbS ar gyfer afonydd fel arfer safonol.
O fewn y rhaglen, mae Afonydd Cymru yn cynrychioli Cymru fel un o wyth ardal brawf ranbarthol ledled y DU. Ein rôl yw archwilio unrhyw atebion arfaethedig yn y byd go iawn i weld pa rai sy’n gweithio orau a ble. Nod y rhaglen yw galluogi defnydd helaeth o NbS yn y dyfodol i ddatrys problemau sy’n ymwneud ag afonydd.
Fel rhan o’r rhaglen hon, rydym yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, a Dŵr Cymru Welsh Water i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen i sicrhau bod NbS yn dod yn arfer safonol yn y diwydiant dŵr.
Bydd y rhaglen yn rhedeg tan fis Medi 2028, gyda Cham 2 (profi argymhellion gweithredol o Gam 1 yn y byd go iawn) yn dechrau yn yr Hydref 2025.
Rhagor o Wybodaeth
Postio:
August 13, 2025

