Ydych chi’n rhannu ein hangerdd dros afonydd Cymru?
Mae Afonydd Cymru yn elusen amgylcheddol sy’n datrys materion sy’n effeithio ar afonydd ledled Cymru. Y gwir yw, mae’n debygol nad yw’r nifer a’r amrywiaeth o fygythiadau sy’n wynebu’r afonydd erioed wedi bod yn uwch. Ein nod yw gweld pob afon yn cael ei hadfer i iechyd da… mae talcen caled o’n blaenau!
Fel elusen fach, hoffem gredu ein bod yn cyflawni ymhell y tu hwnt i’n disgwyliadau. Fodd bynnag, rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion caredig a sefydliadau hael i allu cyflawni ein gwaith.
Os oes afon benodol sy’n agos at eich calon neu os oes gennych bryder am yr holl afonydd arbennig ledled Cymru, ystyriwch gefnogi ein gwaith.
Ein gwarant i chi yw y bydd eich rhodd yn cael ei gwario’n gyfan gwbl ar gyflawni ein nod o sicrhau afonydd iach a glân yng Nghymru.
Diolch yn fawr.
Gellir cyfrannu at Afonydd Cymru drwy JustGiving.