Safbwynt Afonydd Cymru
Mae Afonydd Cymru yn cefnogi’r angen am ffermio cynaliadwy.
Hebddo, ni fydd gennym afonydd glân ac iach. Rydym yn cydnabod bod yn rhaid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) sicrhau cynaliadwyedd economaidd a chymdeithasol yn ogystal â diogelu’r amgylchedd. Fodd bynnag, ein ffocws ni yw adfer iechyd ein hafonydd sydd mewn cyflwr gwael ar hyn o bryd.
Mae’r dystiolaeth bresennol yn dangos, fod rheoli tir gwledig yn cyfrannu 62% o’r ffosfforws yn afonydd ACA sy’n methu yng Nghymru ac mae monitro gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD) yn dangos bod y methiannau hyn yn deillio’n uniongyrchol o’r sector amaethyddol (yn hytrach na dulliau eraill o reoli tir gwledig).
Credwn fod yn rhaid inni fynd i’r afael â’r materion hyn nid yn unig i adfer ein hafonydd ond i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Os bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn sicrhau manteision cadarnhaol i’r amgylchedd, bydd hefyd yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ffermio yng Nghymru. Bydd llawer o’r camau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun talu yn amddiffyn tir fferm i genedlaethau o ffermwyr i ddod.
Mae’n drueni bod cymaint o’r drafodaeth ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) wedi canolbwyntio ar yr angen i gynhyrchu bwyd yn hytrach na’r amgylchedd, oherwydd mae ffermio hefyd yn dibynnu ar ddŵr glân, pridd iach, a thir sy’n wydn ac wedi’i ddiogelu rhag effeithiau newid hinsawdd.
Mae Afonydd Cymru yn croesawu’r canlynol:
- Cynnwys safonau gofynnol cenedlaethol fel rhan o’r cynllun i sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheoliadau presennol ac i sicrhau bod pob sector yn bodloni gofynion deddfwriaethol o dan yr ‘Egwyddor Mai y Llygrydd sy’n Talu’. Credwn y dylai hyn fynd law yn llaw ag ehangu’r defnydd o sancsiynau, sydd ar hyn o bryd yn destun ymgynghoriad ar wahân.
- Y dull haenog o gamau gweithredu cyffredinol, dewisol a chydweithredol. Mae angen i daliadau o dan y camau gweithredu hyn fod yn ddigonol i annog ffermwyr i fynd y tu hwnt i’r camau gweithredu cyffredinol a chefnogi ffermio cynaliadwy yn y tymor hir. Byddem yn annog Llywodraeth Cymru (LlC) i adolygu gweinyddiaeth y cynllun i sicrhau nad yw’n faich ar ffermwyr ac i annog ymgysylltiad uchel â’r cynllun.
- Cefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i ffermwyr tenant y mae’n rhaid eu cefnogi i alluogi cyflwyno camau gweithredu ar ffermydd tenant o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).Mae tystiolaeth o ymweliadau â ffermydd ledled Cymru yn dangos yn glir effeithiau llygredd sylweddol gan ffermwyr tenant sydd ar hyn o bryd yn methu buddsoddi mewn storio slyri a seilwaith ar eu fferm.
- Y ffocws cynyddol ar fioddiogelwch a ddylai leihau lledaeniad clefydau ac at lai o ddibyniaeth ar gyffuriau a chemegau milfeddygol, sydd bellach yn cael eu canfod mewn crynodiadau uchel yn ein hafonydd.
- Gwella gorchudd coed a chynefinoedd ar hyd at 20% o’r tir, gan gynnwys yr addasiadau y cytunwyd arnynt i gydnabod nad yw hyn o reidrwydd yn ymarferol ar gyfanswm arwynebedd y fferm. Mae llawer o’r opsiynau a ariennir yn cynnwys camau gweithredu sydd eisoes yn cael eu hannog fel arfer da gan arbenigwyr ffermio gan gynnwys ffermio cylchdro, gwndwn llysieuol, ymyl o borfa o amgylch cnydau a phori cymysg. Mae angen i ni sicrhau bod ein tir fferm yn wydn i newid hinsawdd, gan allu addasu i lifogydd cynyddol a chyfnodau hir o sychder. Bydd Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn cefnogi hyn drwy gyllid o dan yr haen ddewisol ar gyfer plannu coed a rheoli cynefinoedd, a fydd yn cyfrannu at reoli gwydnwch hirdymor, diogelu priddoedd, a darparu’r amddiffyniad sydd ei angen i ansawdd dŵr afonydd.
Pryderon ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Mae gan Afonydd Cymru bryderon mewn rhai meysydd o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) ac rydym wedi’u cyflwyno’n fanwl fel rhan o’n hymateb i’r ymgynghoriad ond fe’u crynhoir isod:
- Nid ydym yn credu bod y cydbwysedd presennol rhwng rheoleiddio ffurfiol a chydymffurfiaeth â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy SFS yn ddigonol i ddiogelu ansawdd dŵr afonydd. Er enghraifft, rydym o’r farn y dylid cynnwys pennod 4 o’r Cod Ymarfer Amaethyddol Da (CoGAP) (Hwsmonaeth Pridd) yn y ddeddfwriaeth.
- Mae effaith diffyg cnydau gorchudd yn hanfodol ac ni ddylai fod yn destun cynnwys gwirfoddol yn y cynllun.
- Dylai ffermwyr gael eu cymhell i ddefnyddio cnydau amgen sy’n fwy addas i hinsawdd, topograffeg a thymhorau Cymru na india-corn a maip sofl. Mae pridd noeth sy’n agored i law parhaus yn cael effaith sylweddol ar ansawdd dŵr ac ar fioamrywiaeth
- Mae unedau dwys, dan do yn broses ddiwydiannol ac mae angen caniatâd ar eu cyfer. Rhaid i’r trwyddedau fod yn benodol i’r dalgylch a sicrhau bod statws cyflwr ffafriol yn cael ei gyflawni ar afonydd sy’n methu. Mae hyn yn cynnwys amodau ar gyfer P, N ac NH3.
Pryder mwyaf Afonydd Cymru yw’r dybiaeth y bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn datrys problemau ein hamgylchedd a’n hafonydd. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu fel yr unig gam gweithredu mewn nifer o gynlluniau gweithredu ar gyfer afonydd. Mewn rhannau sylweddol o’r sector amaethyddol yng Nghymru nid yw’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy SFS yn berthnasol iddynt, ac mae’r cynllun yn wirfoddol. Er enghraifft, o dan y system taliad sylfaenol ar hyn o bryd, dim ond tua dwy ran o dair o ffermydd yng Nghymru sy’n cymryd rhan. Felly, ni fydd llawer o ffermydd yn ymgysylltu nac yn cefnogi’r camau gweithredu o fewn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Rydym yn parhau i bryderu nad oes unrhyw gamau gweithredu arfaethedig ar gyfer rhai o effeithiau rheoli tir sy’n cael yr effaith fwyaf ar ein hafonydd ar hyn o bryd. Ar y cyd a Fish Legal rydym wedi herio Llywodraeth Cymru ar y broses gyfan sy’n ymwneud â’r diwydiant treulio anaerobig, gan gynnwys cynllunio, trwyddedu, gweithredu a’r diffyg rheoleiddio a gorfodi. Gan mai hwn yw un o’r sectorau triniaeth sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru ac sydd bellach yn cael ei grybwyll fel ateb i reoli slyri yn y dyfodol, mae’n hanfodol bod yr adolygiad hwn yn cael ei weithredu ar frys.
Yn olaf, mae angen cyfundrefn reoliadaol a gorfodi gref yng Nghymru os ydym byth am ddarparu afonydd glân ac iach i’n cymunedau yng Nghymru.
Afonydd Cymru, Mawrth 2024.