Dydd Llun, 5ed Hydref, 2026
Wrth i Gymru ddechrau adfer yn araf o sychder yr haf, mae Afonydd Cymru yn myfyrio ar ei rôl ar Grŵp Cyswllt Sychder Llywodraeth Cymru ac ar sut mae angen i ni baratoi cyn yr un nesaf. Mae’r haf hwn wedi atgyfnerthu’r angen i ganolbwyntio ar adnoddau dŵr yn ogystal ag ansawdd dŵr, os ydym am gryfhau gwydnwch afonydd Cymru.
Mae dau fath o sychder: sychder amgylcheddol a sychder cwmni dŵr.
Mae sychder amgylcheddol, sydd mewn grym yng Nghymru ar hyn o bryd, yn cael ei bennu gan CNC ac yn deillio o gyfnod hir heb fawr o law, gostyngiad sylweddol yn llif afonydd ac effaith debygol ar fyd natur.
Mae sychder cwmni dŵr, sy’n cael ei ddatgan gan gwmnïau dŵr, yn digwydd pan fo’r cyflenwad i gwsmeriaid yn cael ei effeithio naill ai gan brinder adnoddau (dŵr daear, cronfeydd dŵr ac afonydd) neu oherwydd methiant yn y system ddosbarthu. Cyflwynodd Dŵr Cymru waharddiad ar ddefnyddio pibellau dŵr yng Ngorllewin Cymru oherwydd ‘galw parhaus sy’n rhoi pwysau cynyddol ar y rhwydwaith cyflenwi dŵr lleol’.
Mae hyn yn codi rhai cwestiynau diddorol. Beth sy’n gyrru’r galw hwnnw? Ai lefelau uchel o ddyfrio gerddi sydd ar fai? A wnaethom ni lenwi gormod o byllau padlo? A yw’r pibellau’n gollwng gormod? A yw rhagolygon y galw yn gywir? A ydym yn tybio y bydd cwsmeriaid yn defnyddio dŵr yn fwy doeth mewn haf poeth, pan na fyddant yn gwneud hynny? Ai diffyg buddsoddiad i ddiwallu’r galw parhaus am ddŵr ac i fynd i’r afael â gollyngiadau sydd i gyfrif? Wrth i’r hafau fynd yn boethach ac yn sychach, a ydym yn barod i leihau faint o ddŵr rydym yn ei ddefnyddio a newid ein harferion? Faint ydym yn barod i’w wario i ddiogelu ein hamgylchedd? Cwestiynau cymhleth i gyd, ac nid cwmnïau dŵr yw’r unig rai sy’n tynnu dŵr o’r amgylchedd yn ystod yr haf.
Nododd CNC y sectorau sy’n defnyddio dŵr yn ei Adroddiad Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn 2025. Dangosodd hefyd, er bod y diwydiant dŵr wedi lleihau faint o ddŵr y mae’n ei dynnu dros y pum mlynedd diwethaf, fod sectorau eraill yn cynyddu eu rhai hwy.
CNC yw’r rheoleiddiwr amgylcheddol sy’n gyfrifol am reoli adnoddau dŵr yng Nghymru. Nid yw ei gynlluniau ar gyfer rheoli adnoddau dŵr yng Nghymru a phennu faint o ddŵr sydd ar gael i’w dynnu, sef y Strategaethau Rheoli Tynnu Dŵr Dalgylchoedd (CAMS), wedi cael eu diweddaru’n sylweddol ers i CNC wahanu oddi wrth Asiantaeth yr Amgylchedd yn 2013, ac nid ydynt yn ystyried sut y gallai newid hinsawdd effeithio ar faint o ddŵr fydd ar gael dros y blynyddoedd nesaf.
A dim ond tynnu dŵr drwy’r broses drwyddedu y mae hynny’n ei gwmpasu, sydd yng Nghymru ond yn berthnasol i dynnu mwy nag 20,000 litr y dydd. Wrth i lefelau afonydd ostwng ledled Cymru eleni, dau sector heb drwyddedau a gafodd eu taro galetaf. Y cyntaf oedd cyflenwadau dŵr preifat, yn aml tyllau turio ar eiddo gwledig nad yw’n hawdd eu cysylltu â’r prif gyflenwad dŵr. Yr ail oedd tynnu dŵr at ddibenion amaethyddol, yn aml ar gyfer da byw, a all fod o dyllau turio neu o afonydd. Mae hyn yn awgrymu, felly, mai’r rhai sy’n tynnu dŵr yn y sectorau hyn fydd yn rhoi’r pwysau mwyaf yn y dyfodol, a hynny pan fo afonydd ar eu hisaf. Bydd angen rheoli ein hadnodd dŵr gwerthfawr yn llawer gwell er mwyn sicrhau Cymru wledig wydn.
A dim ond tynnu dŵr drwy’r broses drwyddedu y mae hynny’n ei gwmpasu, sydd yng Nghymru ond yn berthnasol i dynnu mwy nag 20,000 litr y dydd. Wrth i lefelau afonydd ostwng ledled Cymru eleni, dau sector heb drwyddedau a gafodd eu taro galetaf. Y cyntaf oedd cyflenwadau dŵr preifat, yn aml tyllau turio ar eiddo gwledig nad yw’n hawdd eu cysylltu â’r prif gyflenwad dŵr. Yr ail oedd tynnu dŵr at ddibenion amaethyddol, yn aml ar gyfer da byw, a all fod o dyllau turio neu o afonydd. Mae hyn yn awgrymu, felly, mai’r rhai sy’n tynnu dŵr yn y sectorau hyn fydd yn rhoi’r pwysau mwyaf yn y dyfodol, a hynny pan fo afonydd ar eu hisaf. Bydd angen rheoli ein hadnodd dŵr gwerthfawr yn llawer gwell er mwyn sicrhau Cymru wledig wydn.
Mae hyn yn codi rhai cwestiynau diddorol. Beth sy’n gyrru’r galw hwnnw? Ai lefelau uchel o ddyfrio gerddi sydd ar fai? A wnaethom ni lenwi gormod o byllau padlo? A yw’r pibellau’n gollwng gormod? A yw rhagolygon y galw yn gywir? A ydym yn tybio y bydd cwsmeriaid yn defnyddio dŵr yn fwy doeth mewn haf poeth, pan na fyddant yn gwneud hynny? Ai diffyg buddsoddiad i ddiwallu’r galw parhaus am ddŵr ac i fynd i’r afael â gollyngiadau sydd i gyfrif? Wrth i’r hafau fynd yn boethach ac yn sychach, a ydym yn barod i leihau faint o ddŵr rydym yn ei ddefnyddio a newid ein harferion? Faint ydym yn barod i’w wario i ddiogelu ein hamgylchedd? Cwestiynau cymhleth i gyd, ac nid cwmnïau dŵr yw’r unig rai sy’n tynnu dŵr o’r amgylchedd yn ystod yr haf.
Nododd CNC y sectorau sy’n defnyddio dŵr yn ei Adroddiad Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn 2025. Dangosodd hefyd, er bod y diwydiant dŵr wedi lleihau faint o ddŵr y mae’n ei dynnu dros y pum mlynedd diwethaf, fod sectorau eraill yn cynyddu eu rhai hwy.
Er bod rhai cyflenwadau preifat wedi’u cofrestru gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac awdurdodau lleol, nid oes gennym gofnod cyflawn o’r achosion hyn o dynnu dŵr gan nad oes angen trwydded ar eu cyfer yng Nghymru. Bu Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi’r sector ffermio yr haf hwn drwy ganiatáu datblygu cronfeydd dŵr ar ffermydd, ond gan eu bod yn ddatblygiadau a ganiateir, nid ydym yn cadw cofnod ohonynt chwaith. Felly, nid oes gennym unrhyw syniad faint o ddŵr i gyd sy’n cael ei dynnu o’n hafonydd bregus yn ystod sychder.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. Mae hefyd ar fin diwygio’r ffordd y mae’n rheoli dŵr yng Nghymru. Mae 2026 wedi bod yn atgof clir bod newid hinsawdd a thywydd eithafol yn gofyn am Gynllun Cenedlaethol hirdymor ar gyfer Dŵr. Mae economi wledig Cymru yn dibynnu arno er mwyn bod yn wydn, ac felly hefyd afonydd mawreddog Cymru.
Cyhoeddwyd: 5ed Hydref, 2026

