Safbwynt Afonydd Cymru
Mae Rheoliadau Dŵr Ymdrochi 2013 yn gosod dyletswydd flynyddol ar Weinidogion Cymru i nodi dyfroedd ymdrochi yng Nghymru ar gyfer eu dynodi. Yn hanesyddol, mae hyn wedi arwain at ddynodi dros 100 o safleoedd dŵr ymdrochi ar ddyfroedd arfordirol Cymru. Yn “Rhaglen Lywodraethu” ddiweddaraf Llywodraeth Cymru ymrwymwyd i ddechrau dynodi dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer hamdden.
Ers cyfnodau clo COVID, bu galwadau cynyddol i gynyddu nifer y safleoedd Dŵr Ymdrochi swyddogol yn afonydd a llynnoedd Cymru i gydnabod y cynnydd yn y defnydd o afonydd ar gyfer nofio.
Mae dynodi dyfroedd ymdrochi yn ei gwneud yn ofynnol i’r dyfroedd gael eu monitro drwy gydol y tymor ymdrochi gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer dau baramedr microbiolegol: enterococci y coluddyn ac E.coli. Mae’n ofynnol hefyd i awdurdodau lleol gynnal cyfleusterau i gefnogi’r gweithgaredd, megis arwyddion, toiledau ac offer diogelwch. Mae hyn yn cynnwys hysbysu’r cyhoedd ynghylch a yw’r dyfroedd yn ddiogel i nofio ynddynt.
Mae Afonydd Cymru eisiau afonydd glân ac iach ar gyfer pob cymuned yng Nghymru. Rydym yn cefnogi’r defnydd o’n hafonydd at bob math o ddibenion hamdden cyn belled nad yw’r defnydd hwnnw yn peryglu rhywogaethau a chynefinoedd gwarchodedig ar yr afon.
Cafodd Rheoliadau Dŵr Ymdrochi 2013 eu hysgrifennu gyda ffocws ar ymdrochi arfordirol, ac nid ydym yn credu bod monitro cymharol anaml, sy’n seiliedig ar baramedrau microbiolegol yn unig mewn dyfroedd mewndirol, yn ddigonol i amddiffyn iechyd a lles defnyddwyr hamdden ar afonydd. Nid yw’n cydnabod effeithiau ychwanegol llygryddion eraill yn yr afon megis fferyllolion a chemegau (domestig ac amaethyddol) a all hefyd effeithio ar iechyd pobl, yn enwedig pan nad oes fawr ddim gwanediad, neu dim gwanediad o gwbl. Nid yw ychwaith yn darparu unrhyw ofyniad i adrodd am ddigwyddiadau llygredd i fyny’r afon o safleoedd ymdrochi.
Credwn na ddylai safleoedd gael eu hystyried yn rhai sydd o bosibl yn addas, oni bai fod ystyriaeth lawn wedi’i rhoi i ansawdd microbiolegol, llygryddion eraill y gwyddys eu bod yn niweidiol i bobl, diogelwch y safle a difrod/tarfu ar fflora a ffawna.
Rydym hefyd yn pryderu nad yw dynodiad dyfroedd ymdrochi mewndirol yn gysylltiedig â rhaglenni buddsoddi gan gwmnïau dŵr ac felly nid yw’n nodi’r buddsoddiad gofynnol sy’n angenrheidiol yn y cylchoedd cynllunio pum mlynedd i sicrhau y gellir gwneud y gwelliannau angenrheidiol. Gall hyn arwain at ddad-ddynodi safleoedd ac effeithio ar ddefnydd y safle yn y dyfodol. Felly, hoffai Afonydd Cymru weld dull sy’n caniatáu ceisio buddsoddiad ychwanegol i gefnogi dynodiad dyfroedd mewndirol, lle bo angen.
Fodd bynnag, waeth beth fo’u statws dŵr ymdrochi yn y dyfodol, iechyd ecolegol holl afonydd Cymru yw’r flaenoriaeth ac maent yn haeddu eu diogelu’n amgylcheddol yn bennaf.
Afonydd Cymru, Mai 2024