Mae dros 2,000 o orlifoedd storm wedi’u caniatáu yng Nghymru. Maent yn cyflawni swyddogaeth iechyd cyhoeddus hanfodol, gan reoli’r mewnbwn ychwanegol i weithfeydd trin dŵr gwastraff mewn cyfnodau o dywydd eithafol.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i gwmnïau dŵr sicrhau bod gorlifoedd storm ond yn gollwng dŵr yn ystod cyfnodau o law trwm, pan fydd capasiti’r system garthffosiaeth gyfun wedi ei drechu oherwydd glaw a/neu eira’n toddi. O dan yr amodau hyn, bydd y dŵr a gaiff ei ollwng wedi’i wanhau a dylai effaith y llwyth bacteriol ar y cwrs dŵr sy’n ei dderbyn fod yn fach iawn. Er y gallant gyflwyno llygryddion eraill, nid yw gorlifoedd storm yn gyfrannwr sylweddol at lefelau maetholion yn y rhan fwyaf o afonydd Cymru.
Mae gorlifoedd storm yng Nghymru yn cael eu rheoleiddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), y corff sy’n pennu’r amodau trwydded y mae’n rhaid cydymffurfio â hwy. Mae nifer y gollyngiadau a ganiateir o orlif yn dibynnu ar sensitifrwydd amgylcheddol y cwrs dŵr y gwneir y gollyngiad iddo.
Tasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru
Yn 2021, sefydlwyd “Tasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru” Llywodraeth Cymru i wella rheolaeth a rheoleiddio amgylcheddol gorlifoedd yng Nghymru. Mae Afonydd Cymru wedi gweithredu fel ymgynghorwyr annibynnol i’r Tasglu hwn. O ganlyniad i waith y Tasglu, mae dros 99% o orlifoedd storm Dŵr Cymru bellach yn cael eu monitro (100% o rai Hafren Dyfrdwy), gan gofnodi nifer a hyd y gollyngiadau. Cyhoeddir y data hwn (data Monitro Hyd Digwyddiadau neu EDM) ar eu gwefan ac adroddir arno i Gyfoeth Naturiol Cymru.
Sicrhaodd y Tasglu hefyd ddiffiniad o law eithriadol y gellir ei ddefnyddio i reoleiddio gorlifoedd carthffosiaeth yng Nghymru yn ei erbyn. O ganlyniad, mae trwyddedau ar orlifoedd carthffosiaeth bellach yn orfodol yn gyfreithiol am y tro cyntaf
Mae Dŵr Cymru hefyd yn buddsoddi’n sylweddol i wella gorlifoedd storm (£140m 2020-2025 a £420m pellach wedi’i gynllunio ar gyfer 2025 -2030) gan ganolbwyntio yn gyntaf ar orlifoedd sy’n achosi’r niwed amgylcheddol mwyaf.
Er hyn, mae problemau’n parhau i effeithio ar afonydd Cymru a gorlifoedd storm. Datgelodd ymchwiliadau annibynnol yn 2023 dorri amodau trwyddedau hirdymor mewn rhai safleoedd, nifer fawr yr oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwbl ymwybodol ohonynt. Bu i Afonydd Cymru, trwy gydweithio gyda Peter Hammond, herio’r diffyg prosesau rheoleiddio a oedd yn caniatáu’r gollyngiadau hyn. Yn 2023, sicrhawyd canllawiau diwygiedig i gwmnïau dŵr yng Nghymru i gydymffurfiaeth â gofynion llif llawn i’r gwaith trin. Rydym hefyd wedi galw am gryfhau pellach yn y system gynllunio i atal datblygiadau newydd rhag cael eu caniatáu lle nad yw gorlifoedd carthffosiaeth yn cael eu gweithredu’n unol â thrwydded nac yn cydymffurfio â’r gwaith trin.
Hefyd, yn 2023, cafodd perfformiad amgylcheddol Dŵr Cymru ei israddio gan CNC o dair i ddwy seren oherwydd:
- 25 o ddigwyddiadau llygredd yn gysylltiedig â’r rhwydwaith carthffosiaeth
- 5 ohonynt yn ddigwyddiadau llygredd “difrifol”
- Methiant Dŵr Cymru i gyflawni targedau ar hunan-adrodd digwyddiadau llygredd
- A’u methiant i gyflawni targedau amodau trwydded gollyngiadau
Mwy o wybodaeth:
Dŵr Cymru Map Gwybodaeth Gorlifoedd Storm Amser Real
Asesiad Cydymffurfiaeth Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonydd Cymru yn erbyn Targedau Ffosfforws
Gorlifoedd Storm– CyfoethNaturiol Cymru
Tasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru
Adroddiad Newydd yn Dangos Mwy o Fethiannau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru – Afonydd Cymru, 19 Hydref 2023.
Adroddiad yr Athro Peter Hammond, 17 Hydref 2023
