Gwrthbwyso Maetholion

Gweledigaeth Afonydd Cymru yw sicrhau afonydd glân ac iach ar gyfer bob cymuned yng Nghymru...

Gwrthbwyso Maetholion

Gweledigaeth Afonydd Cymru yw sicrhau afonydd glân ac iach ar gyfer bob cymuned yng Nghymru. Mae’n amlwg bod ansawdd dŵr ein hafonydd hyn o bryd yn wael, a bod nifer sylweddol ohonynt  yn methu oherwydd lefelau uchel o faetholion. Ym mis Chwefror 2021, adroddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod pump o’n hafonydd ACA pwysicaf yng Nghymru (Gwy, Wysg, Teifi, Cleddau a Dyfrdwy) yn methu cydymffurfio â’r targedau ffosfforws i gyflawni statws cyflwr ffafriol. Mae CNC wedi nodi mai prif ffynonellau ffosfforws yn yr afonydd hyn yw llygredd amaethyddol, gweithrediadau’r diwydiant dŵr a’r sector diwydiant. Mae ymchwiliadau’n parhau gan CNC ar yr afonydd hyn i ddeall y methiannau hyn yn fwy manwl.

O ganlyniad i’r methiannau cydymffurfio hyn, o dan Reoliadau Cynefinoedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), fel yr Awdurdod Cymwys, wedi gorfod gweithredu cyfyngiadau cynllunio yng Nghymru ar ddatblygiadau tai domestig a datblygiadau amaethyddol. Yn dilyn y dyfarniad yn achos Cooperatie Mobilisation a draddodwyd ym mis Tachwedd 2018 gan Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd (Achosion Cydgysylltiedig C-293/17 a C-294/17) (a elwir yn Achos yr Iseldiroedd), daethpwyd i’r casgliad, pan fo safle’n methu â chyflawni ei amcanion ansawdd dŵr ac felly’n cael ei ddosbarthu fel un mewn cyflwr anffafriol, fod y gofod ar gyfer cymeradwyo ceisiadau cynllunio sy’n arwain at effeithiau niweidiol ychwanegol yn gyfyngedig. Felly, daethpwyd i’r casgliad na allai unrhyw ddatblygiad pellach ddigwydd ar afonydd ACA oni bai bod y datblygiad yn bodloni’r gofynion ar gyfer ‘Niwtraliaeth Maetholion’; h.y. mai dim ond os byddai’r maetholion (o ganlyniad i’r datblygiad) yn cael eu lliniaru’n llawn y gallai datblygiad ddigwydd ac na fyddai unrhyw faetholion pellach yn cael eu hychwanegu at yr ACA. Yng Nghymru, mae hyn wedi arwain at gyngor cynllunio interim gan CNC (darparwch ddolen).

Mae Afonydd Cymru ac ymddiriedolaethau afonydd Cymru yn archwilio cyfleoedd ar gyfer gwrthbwyso maetholion. Fel rhan o’n rôl, rydym yn sefydlu’r defnydd o atebion seiliedig ar natur a’u cyfraniad at reoli maetholion. Mae hyn yn cynnwys gwerthuso a dylunio gwlyptiroedd integredig wedi’u hadeiladu i ddarparu triniaeth drydyddol ar ollyngiadau dŵr gwastraff a gwella ansawdd dŵr ein hafonydd. Mae ymddiriedolaethau afonydd yn gweithio’n agos gyda ffermwyr trwy gynnig cyngor fferm a chynlluniau rheoli ffermydd. Rydym yn aros am ganllawiau gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gefnogi hefyd ar gyflwyno gwlyptiroedd ar y fferm ac atebion seiliedig ar natur i gefnogi rheoli maetholion. Mae Afonydd Cymru yn canolbwyntio ar  weithredu a chynnig atebion ymarferol ar lawr gwlad- rydym yn awyddus i ddatgloi polisïau rheoleiddio a llywodraethol a fyddai’n galluogi ymddiriedolaethau afonydd i gyflwyno atebion, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill, i ddod o hyd i atebion i wrthbwyso maetholion.