Maniffesto ar gyfer Afonydd Cymru

Ymrwymiadau sydd eu hangen gan bleidiau gwleidyddol os yw afonydd Cymru i wella dan Lywodraeth nesaf Cymru....

Maniffesto ar gyfer Afonydd Cymru

Wrth i etholiadau’r Senedd 2026 agosáu, rydym yn amlinellu’r ymrwymiadau sydd eu hangen gan bleidiau gwleidyddol os yw afonydd Cymru i wella dan Lywodraeth nesaf Cymru.

Dydd Gwener 9 Ionawr 2026

Wedi’u hwynebu gan amryw o bwysau, mae cyflwr presennol afonydd Cymru yn peri pryder mawr. Maent yn parhau i gael eu llygru gan ffynonellau lluosog, gan rywogaethau goresgynnol, gorddynnu dŵr ac effeithiau newid hinsawdd, i enwi dim ond ychydig o’r problemau.

Gyda chwarter o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru, mae’r Senedd wedi datgan ‘argyfwng natur’. Ac, yn benodol o ran afonydd, mae poblogaethau o rywogaethau pysgod eiconig fel eog yr Iwerydd a sewin yn dirywio’n gyflym ac mewn perygl o ddiflannu’n llwyr.

Wrth i etholiad y Senedd yn 2026 agosáu, rydym wedi amlinellu’r ymrwymiadau yr ydym yn credu sydd eu hangen gan bob plaid wleidyddol os yw afonydd Cymru i wella dan Lywodraeth nesaf Cymru.

I wrthdroi’r duedd bryderus bresennol, rydym yn annog pleidiau gwleidyddol i ymrwymo i’r canlynol….

1. Strategaeth glir a chynhwysfawr i wella afonydd

Gyda dim ond un rheoleiddiwr amgylcheddol ac un strwythur cwmni dŵr di-elw, mae rheoli dŵr yng Nghymru eisoes yn wahanol iawn i Loegr. Dylai Llywodraeth newydd Cymru osod cyfeiriad strategol ar gyfer rheoli a rheoleiddio afonydd ac ar gyfer yr holl sectorau sy’n effeithio arnynt, gyda blaenoriaethau clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth a datrysiadau tryloyw, hirdymor i sicrhau lles i’n cenedlaethau’r dyfodol.

I gyflawni hyn, bydd angen i’r Llywodraeth nesaf:

  • Ddefnyddio’r ailstrwythuro sydd ar ddod o reoleiddio cwmnïau dŵr yng Nghymru fel cyfle i sicrhau atebolrwydd clir, craffu cyhoeddus ar berfformiad ac oblygiadau cyfreithiol am danberfformio.

  • Sicrhau bod y Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru (OEGW), sydd wedi bod yn hir-ddisgwyliedig ac sydd ar fin cael ei sefydlu, yn cael digon o adnoddau ac yn gwbl annibynnol, gyda’r un statws a phwerau â’i chyfateb yn Lloegr.

  • Creu Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Dŵr sy’n ystyried y galw tymor hir am ddŵr yng Nghymru i gefnogi ein poblogaeth, ein tai a’n diwydiant, ond sydd hefyd yn sicrhau diogelu a hadfer yr amgylchedd a’r rhywogaethau sy’n dibynnu arno yn y tymor hir. Rhaid diogelu afonydd Cymru ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

Dylai Llywodraeth newydd Cymru osod cyfeiriad strategol ar gyfer rheoli eoleiddio afonydd ac ar gyfer yr holl sectorau sy’n effeithio arnynt.a rh

2.Cynllunio, rheoli a chyflawni ar lefel dalgylch

Mae gan bob afon yng Nghymru ei set ei hun o faterion a blaenoriaethau, ac mae rhai ohonynt yn unigryw. Yn ogystal â strategaeth gyffredinol felly, mae angen model cynllunio a rheoli ar sail dalgylch sy’n effeithiol er mwyn sicrhau gwelliannau.

I gyflawni hyn, bydd angen i’r Llywodraeth nesaf:

  • Sefydlu model rheoli afonydd sy’n glir ac yn gyson, gyda llywodraethu cadarn ond hefyd â’r hyblygrwydd i gydnabod gwahaniaethau pob afon.

  • Creu polisïau rheoli dŵr sy’n rhoi gwydnwch hinsawdd a bioamrywiaeth tymor hir uwchlaw enillion tymor byr. Byddai hyn, ynghyd â strategaeth gyffredinol glir, yn cyflawni argymhellion Adolygiad Cunliffe, y mae angen eu gweithredu’n llawn.

  • Datrys llywodraethu trawsffiniol ar gyfer afonydd Gwy, Hafren a Dyfrdwy.
  • Cyflymu gwaith corfforol ar lawr gwlad sy’n gwella cyflwr afonydd, gyda chynllunio ar gyfer cyllid tymor hir.
  • Mabwysiadu polisïau adfer afonydd arloesol megis defnyddio Datrysiadau Seiliedig ar Natur yn ehangach.
  • Cyflwyno caniatáu a chynllunio yn seiliedig ar risg i gael gwared ar rwystrau ac i gyflymu cyflawni gwaith adfer.

 

3. Bod yn llym ar bob llygrwr a gwneud Cymru yn arweinydd y DU o ran gwella afonydd

Gyda dim ond un rheoleiddiwr amgylcheddol ac un strwythur cwmni dŵr di-elw, mae rheoli dŵr yng Nghymru eisoes yn wahanol iawn i Loegr. Dylai Llywodraeth newydd Cymru osod cyfeiriad strategol ar gyfer rheoli a rheoleiddio afonydd ac ar gyfer yr holl sectorau sy’n effeithio arnynt, gyda blaenoriaethau clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth a datrysiadau tryloyw, hirdymor i sicrhau lles i’n cenedlaethau’r dyfodol.

I gyflawni hyn, bydd angen i’r Llywodraeth nesaf:

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol ac, os nad ydynt yn cael eu dilyn, cymryd camau gorfodi priodol.

  • Ehangu pwerau Llywodraeth Cymru o dan y Ddeddf Ddatganoli i ddarparu’r gallu angenrheidiol i gyflawni gwelliannau i afonydd.

  • Bod ar flaen y gad o ran ymchwil a thystiolaeth.

  • Arwain drwy esiampl a chyfateb ein deddfwriaeth a’n polisïau i safonau byd-eang mewn meysydd megis iechyd pridd a chemegau.

  • Sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael digon o adnoddau i orfodi cyfreithiau amgylcheddol yn effeithiol, a bod y rheolau hyn yn cael eu cymhwyso’n gyfartal ar draws pob sector. Er gwaethaf y ffocws ar y diwydiant dŵr, y sector amaethyddol sydd â’r effaith fwyaf ar afonydd yng Nghymru.

  • Rhoi mwy o offer gorfodi i Gyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys y pŵer i roi dirwyon ar-y-pryd a defnyddio sancsiynau sifil.

Dylai Cymru arwain drwy esiampl, a rhaid i’n deddfwriaeth a’n polisïau fod wedi’u halinio’n gadarn â’r safonau gorau yn y byd mewn meysydd megis iechyd pridd a chemegau.