Mae newid hinsawdd yn un o’r heriau amgylcheddol mwyaf sy’n wynebu bywyd gwyllt a physgodfeydd afonydd Cymru. Mae angen symud tuag at ynni carbon isel ac rydym yn cefnogi’r symudiad tuag at ynni adnewyddadwy. Gallai cynhyrchu trydan o lif afonydd ac ynni’r llanw gyfrannu at ddyfodol ynni glân. Fodd bynnag, rhaid i gynhyrchu ynni ystyried yr effaith leol ar yr amgylchedd. Rydym o blaid strategaethau a fydd yn lleihau’r defnydd presennol o ynni, yn datblygu technolegau newydd ar gyfer ynni ac yn gwella effeithlonrwydd ynni. Mae’n amlwg bod nifer o bleidiau gwleidyddol yng Nghymru wedi cynnwys ystyriaeth o forlynnoedd llanw yn eu maniffestos.
Rhaid sicrhau bod unrhyw ystyriaeth o ddatblygu ynni morlynnoedd llanw yn cydnabod pwysigrwydd yr amgylchedd lle y gallai’r cynlluniau gael eu cyflwyno. Yn ddiweddar, ystyriwyd morlynnoedd llanw ym Mae Abertawe, Aber Afon Hafren a Bae Caerdydd. Ar hyn o bryd mae cynnig dan ystyriaeth ar gyfer Afon Dyfrdwy. Mae’r holl safleoedd hyn yn ardaloedd o bwysigrwydd rhyngwladol, wedi’u dynodi ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau sy’ cael eu diogelu gan gyfraith Ewrop. Hyd yn hyn, nid oes unrhyw gynllun a gyflwynwyd wedi llwyddo i ddatrys y difrod anadferadwy i’r pysgod, yr adar a’r cynefinoedd sy’n gysylltiedig â thechnoleg morglawdd gyfredol.
Ein prif bryder fyddai:
- Y posibilrwydd o darfu ar lifoedd a allai arwain at newid yn y patrymau llif naturiol yn yr afonydd sy’n llifo i ddatblygiad forlyn llanw ac unrhyw effeithiau dilynol y gallai’r patrymau llif newidiol hynny eu cael ar bysgod mudol .
- Effaith uniongyrchol heb ei datrys technoleg tyrbin ar rywogaethau pysgod, er enghraifft, trwy sŵn, dirgryniad, patrymau llif a niwed uniongyrchol trwy’r tyrbin (trawma difrifol)
Byddem yn dadlau na ddylai unrhyw ddatblygiad beryglu’r gofynion o dan y Rheoliadau Cynefinoedd a Fframwaith Strategaeth Forol Ewrop. Mae Afonydd Cymru yn cefnogi’n weithredol ymchwil a fyddai’n gymorth mynd i’r afael â’r pryderon hyn a’r bylchau mewn gwybodaeth. Byddwn yn ystyried pob cynnig newydd ond dim ond os gall cynlluniau ddangos atebion i’r pryderon a amlinellwyd uchod, y byddwn yn cynnig cefnogaeth.