Mae Afonydd Cymru (AC) yn cydnabod bod galw cynyddol i ddefnyddio dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer pob math o weithgaredd hamdden. Yn ystod y pandemig bu cynnydd sylweddol yn y cyfranogiad gan chwaraeon padlo, pysgotwyr, nofwyr awyr agored a cherddwyr. Mae’r effeithiau cadarnhaol sy’n deillio o fynediad at fannau gwyrdd a glas ar lesiant meddyliol a chorfforol pobl yn cael eu cydnabod fwyfwy. Mae Afonydd Cymru am gydweithio â phob partner i gefnogi mentrau sy’n galluogi pobl i fwynhau’r mannau hyn mewn ffordd gynaliadwy gan gydnabod hawliau ac anghenion pob rhanddeiliad.
Yn hanesyddol, mae Ymddiriedolaethau Afonydd unigol wedi helpu i sefydlu Trefniadau Mynediad i hwyluso chwaraeon padlo ar rai afonydd lle nad oes Hawl Mordwyo presennol. Mae trefniadau o’r fath yn bodoli ar Afonydd Wysg, Gwy a Dyfrdwy ac mae perchnogion wedi rhoi mynediad yn ystod cyfnodau tymhorol y cytunwyd arnynt ac mae trefniadau mynediad a chyfleusterau wedi’u sefydlu gan Ymddiriedolaethau Afonydd lleol.
Yn 2018, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) archwilio ffyrdd o gynyddu mynediad at afonydd a llynnoedd Cymru a ffurfiwyd Is-grŵp Mynediad at Ddŵr i roi cynghor. Canolbwyntiodd y grŵp hwn ar ddod o hyd i ffyrdd o hwyluso mynediad cynyddol i bysgotwyr a chwaraeon padlo, tra’n diogelu hawliau ac anghenion pob defnyddiwr, yn ogystal â pherchnogion tir a glannau afonydd. Roedd hyn yn cynnwys cydnabod bod mynediad at ddŵr yn gofyn am reolaeth ac yn achosi costau cynnal a chadw, parcio a chyfleusterau y dylai pob defnyddiwr hamdden yr afon gyfrannu atynt. Roedd Afonydd Cymru yn aelod o’r Grŵp hwn ac fe wnaethom gymeradwyo argymhellion yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Gweinidog yn 2020. Hyd yn hyn, ni chafod argymhellion yr adroddiad eu gweithredu.
Yn fwy diweddar, bu cynnydd yn y galw am nofio yn y gwyllt a’r galw am Ddyfroedd Ymdrochi Mewndirol dynodedig. Mae hyn wedi tynnu sylw pellach at effeithiau hirdymor a niweidiol llygredd amaethyddol a gollyngiadau carthion heb ganiatâd ar ecoleg ac ansawdd dŵr ein hafonydd. Mae ymgyrch Afonydd Cymru i atal llygredd o’r fath yn allweddol i sicrhau’r ansawdd dŵr angenrheidiol i gyflawni’r gweithgaredd hwn yn ddiogel, ynghyd â gweithgareddau defnyddwyr eraill o’r dŵr yn ogystal, ag er mwyn diogelu ein bywyd gwyllt.