Mehefin 2024
O lwyfandir uchel Blaenau Morgannwg ym Morgannwg, mae’r ddau ddyffryn rhewlifol dwfn a serth yn disgyn yn sydyn i’r de-ddwyrain i gyfeiriad prifddinas Cymru, Caerdydd. Oddi mewn iddynt mae dwy afon gyfarwydd De Cymru yn llifo, sef y Rhondda Fawr a’r Rhondda Fach.
Ym mhentref y Porth, mae’r Fach mwy gogleddol yn ymuno a’r Fawr. Wedi hynny mae prif Afon Rhondda yn parhau tua’r de-ddwyrain am 6km arall cyn ymuno â’r Afon Taf ym Mhontypridd. Credir bod yr enw “Rhondda” yn cyfeirio at sŵn uchel ei dyfroedd yn debyg i’r ymadrodd Saesneg “babbling brook” – nant swnllyd.
Taflen ffeithiau yr afon Rhondda i’w lawrlwytho
Pont garreg dros y Rhondda Fach uchaf ym Mryn Du, ychydig filltiroedd i lawr yr afon o Gronfa Ddŵr Lluest-Wen. Dywedir mai hon yw’r bont hynaf i oroesi yng Nghwm Rhondda.
Methiant amddiffynfeydd rhag llifogydd yn y Gelli, pentref ar lannau Rhondda Fawr yng nghanol y 1960au.
Pentref Ton Pentre, mae’r Rhondda Fawr yn llifo drwyddo, gyda’r tomenni glo Mynydd y Gelli yn y cefndir. Cyn dyfodiad y glofeydd, byddai’r dirwedd wedi’i gorchuddio’n bennaf â choedwig.
Credir bod hanes dyn yng Nghwm Rhondda yn dyddio’n ôl i’r cyfnod cynhanesyddol, o bosibl mor gynnar â 4400CC. Ym mhen uchaf Rhondda Fawr mae anheddiad o’r Oes Haearn -Hen Dre’r Mynydd, tra yn Fernadale ar y Rhondda Fach mae olion Twyn-y-briddallt, gwersyll Rhufeinig a ddefnyddiwyd yn eu hymdrechion i oresgyn y Silwriaid tua 50 OC. Ym 1326, dywedir i Edward II gymryd lloches yng Nghwm Rhondda cyn iddo gael ei gipio a’i orfodi i ildio’r goron y flwyddyn wedyn.
Fodd bynnag, fel yn y rhan fwyaf o afonydd yn y rhan yma o Gymru, daeth y newidiadau anthropogenig mwyaf arwyddocaol i’r Rhondda yn ystod y cyfnod diwydiannol, ac o gloddio glo yn benodol.
Yn ôl The Cardiff and Merthyr Guardian, roedd saith pwll glo ar waith yng Nghymoedd y Rhondda erbyn 1846. Ehangodd y diwydiant gyflymaf ar ôl 1855 ac, er i’r pyllau glo gael enw drwg am ddamweiniau erchyll, roedd allbwn maes glo’r Rhondda ar ei anterth ym 1913 gan echdynnu dros naw miliwn a hanner tunnell o lo o’r safon gorau yn y DU. Gyda hynny daeth cynnydd sydyn yn y boblogaeth – o ychydig filoedd yn hanner cyntaf y 19eg ganrif i dros 160,000 erbyn 1920.
Llygredd diwydiannol
Roedd yr effaith ar yr ardal a’r afonydd yn anochel. Fel llawer o afonydd eraill yn ne-ddwyrain Cymru, roedd y Rhondda yn aml yn llifo’n ddu oherwydd gollyngiadau o’r glofeydd. Ond nid y diwydiant glo yn unig oedd yn llygru. Ar ddiwedd y 1800au roedd papurau newydd yn adrodd bod “llanast ffiaidd o liw melyn” o weithfeydd tun wedi “staenio”‘r afon. Ynghyd â’r llygredd glo, roedd hyn wedi gwneud y dŵr yn “anaddas hyd yn oed i wartheg ei yfed” o’i gymharu â chyn dyfodiad diwydiant, pan oedd y Rhondda yn rhedeg yn glir. Roedd llygredd carthffosiaeth hefyd yn achosi problemau iechyd, gydag adroddiadau yn y wasg am achosion rheolaidd o’r dwymyn deiffoid ymhlith y boblogaeth leol.
Roedd newid sylweddol i’r dirwedd yn digwydd hefyd. Mor ddiweddar â 1883, adroddwyd bod Cwm Rhondda wedi’i goedwigo i raddau helaeth. Mae enwau llawer o’r trefi a’r pentrefi yn cyfeirio at hyn, gan gynnwys naill ai “coed” neu “gelli”. Gydag ehangu’r glofeydd daeth galw enfawr am bren i wneud pyst ar gyfer y pyllau glo. Canlyniad hyn oedd datgoedwigo’r ardal ar raddfa fawr, sefyllfa sydd wedi’i adfer yn rhannol bellach trwy blannu coedwigaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Muriau’r Rhondda
Heb gofnodion manwl, gallwn ond ddyfalu effaith y newid hwn i’r dirwedd yn y 19eg a’r 20fed ganrif o ran ansawdd dŵr y Rhondda ac, yr un mor bwysig, y perygl o lifogydd i drefi cyfagos. Mewn sawl ardal o Gwm Rhondda, mae ffyrdd a thai wedi suddo islaw lefel yr afon o ganlyniad i dynnu’r glo oddi tanynt, gan ychwanegu at y perygl o lifogydd. Adeiladwyd amddiffynfeydd llifogydd sylweddol ar rai strydoedd, a elwir yn lleol yn “Furiau’r/Waliau’r Rhondda.”
Erbyn y 1920au dechreuodd y diwydiant glo ddirywio gyda phwll glo olaf y Rhondda, Glofa’r Maerdy, yn cau ym 1990. Ac, yn groes i lawer o afonydd yng Nghymru, mae ansawdd dŵr yr afon wedi gwella ers hynny. Mae Asesiadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a gynhaliwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru bellach yn dosbarthu dau allan o dri chorff dŵr y Rhondda fel rhai o “Statws Ecolegol Da” ac iechyd cyffredinol Da. Adroddir bod brithyll gwyllt yn ffynnu yn yr afon gyda’r pysgodyn cangen las sy’n sensitif i ansawdd dŵr yn bresennol yn y rhannau isaf hefyd
Angenfilod a Bwystfilod
Mae’r afon hefyd yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt arall, gyda sefydliadau cymunedol fel “Grŵp Bywyd Gwyllt a Natur Cymoedd y Rhondda” yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ddathlu ei chyfoeth naturiol.
Un o etifeddiaethau’r oes glo yw’r nifer o safleoedd gwastraff glo sy’n llenwi cymoedd de Cymru. Er y gall y rhain fod yn fygythiad i drefi ac ecoleg yr afon (yn 2020 llithrodd 60,000 tunnell o wastraff glo i’r Rhondda yn Nhylorstown), maent hefyd wedi dod yn gynefin cynyddol bwysig i rai rhywogaethau prin iawn. Darganfu entomolegwyr ddau fath o filtroed, un a gredid yn frodorol i’r Pyranees yn unig (a enwyd yn “Anghenfil y Maerdy”) a’r llall yn rhywogaeth newydd sbon (“Bwystfil y Beddau”) yng Nghwm Rhondda yn ddiweddar.
Yn dilyn llwyddiant prosiect tebyg ar yr Afon Cynon gerllaw, mae Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru bellach wedi ymestyn eu menter “Afon i Bawb” i’r Rhondda. Mae’r prosiect hwn yn cynnwys pobl leol – “oedolion a phlant” – mewn monitro ac adfer afonydd, gan gynnwys clirio sbwriel, rheoli rhywogaethau ymledol a samplu infertebratau.
References & More Information:
Afon i Bawb Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru/South East Wales Rivers Trust, A River For All
“Vitriol in the Taff: River Pollution, Industrial Waste, and the Politics of Control in late Nineteenth-Century Rural Wales.” Keir Waddington, Gwasg Prifysgol Caergrawnt 2018.
Arsylwi Dyfroedd Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru
“Historic Landscape Characterisation The Rhondda. The Rhondda Historical Processes themes and background.” Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent a Cadw
“Great Archaeological Sites in Rhondda Cynon Taf.” Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent a Cadw
Rhondda population growth – A Vision Of Britain Through Time.
Grŵp Bywyd Gwyllt a Natur Cymoedd y Rhondda Valleys Wildlife and Nature Group. (Tudalen Facebook)Â
Postio:
June 28, 2024
