Mae Sefydliad Afonydd Gwy ac Wysg yn elusen gofrestredig sy’n ymwneud ag ecoleg ac, yn fwy penodol, adfer cynefinoedd, ansawdd dŵr a physgodfeydd afonydd Gwy ac Wysg. Mae’r Sefydliad yn fwy na sefydliad lobïo yn unig: trwy gyfres o brosiectau partneriaeth, mae’n codi symiau sylweddol o arian i unioni problemau fel dirywiad cynefinoedd, ansawdd dŵr gwael a llygredd gwasgaredig, rhwystrau i fudo pysgod a gor-ecsbloetio ein pysgodfeydd. Y Sefydliad yw’r ymddiriedolaeth afonydd fwyaf yng Nghymru a Lloegr o ran allbwn.
Amcanion elusennol y Sefydliad:
- Cadw a chynnal, amddiffyn, adfer a gwella amgylcheddau a chynefinoedd afonydd Gwy ac Wysg, eu dalgylchoedd cyfan, llednentydd, cyrsiau dŵr ac aberoedd, gan gynnwys Aber Afon Hafren, ynghyd â’u rhywogaethau pysgod yn enwedig eogiaid a rhywogaethau cynhenid eraill o anifeiliaid a phlanhigion.
- Hyrwyddo addysg ym maes cadwraeth afonydd, dalgylchoedd afonydd a’u bywyd anifeiliaid a phlanhigion a’r angen i warchod, amddiffyn, adfer a gwella’r amgylcheddau hynny er lles cenedlaethau’r dyfodol.