Mae Simon yn wyddonydd amgylcheddol ac yn brif weithredwr Sefydliad Gwy ac Wysg. Dros y blynyddoedd, mae wedi bod yn ymwneud â phob agwedd ar adfer afonydd, o galchu blaenddyfroedd i reoli prosiectau, datblygu ceisiadau am gyllid, ac erbyn hyn, arwain y Sefydliad.
Yn bysgotwr brwd ac yn frwdfrydig dros fadarch, ei angerdd yw gwella afonydd a’r ffordd rydym yn rheoli ein priddoedd. Mae’n cael ei yrru gan yr awydd i ddatrys problemau sy’n ymddangos yn anhydrin ac sy’n cael effaith ar ein hafonydd. Mae’n byw gyda’i deulu yn y Mynyddoedd Duon.
