Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru

Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru yn 2007 ac enillodd statws elusennol yn 2012...

Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru

Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru yn 2007 ac enillodd statws elusennol yn 2012. Mae ei haelodau, gwirfoddolwyr a noddwyr wedi ymrwymo i ddiogelu a gwella’r amgylchedd dyfrol a’r cynefin cysylltiedig â’n hafonydd.

Bydd gwaith Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru yn dod â buddion parhaol i fywyd gwyllt a chymunedau De-ddwyrain Cymru a bydd yn cyfrannu at –

  • Adfer cynefinoedd glannau afonydd a dyfrol.
  • Diogelu a chadwraeth y planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw yn ac o amgylch yr afonydd.
  • Cefnogaeth i addysg amgylcheddol.

Gwefan Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru