Ymunwch â ni!

O grwpiau Gwyddoniaeth Dinasyddion i adrodd ar lygredd, mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi helpu i adfer a gwarchod eich afon leol…

Mae’r mudiad “Gwyddoniaeth Dinasyddion” wedi ehangu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru. Mae pobl sy’n pryderu am gyflwr eu nentydd lleol wedi bod yn awyddus i gymryd rhan mewn adfer a gwarchod afonydd, yn awyddus i geisio gwneud eu rhan i helpu i fynd i’r afael â phroblemau ansawdd dŵr a cholled bioamrywiaeth.

O ganlyniad, mae grwpiau gwyddoniaeth dinasyddion i’w gweld ledled Cymru. Mae eu haelodau gwirfoddol yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau o samplu dŵr, clirio sbwriel ac adrodd ar broblemau.

Mae Ymddiriedolaethau Afonydd rhanbarthol Cymru oll yn cynnig rhaglenni gwyddoniaeth dinasyddion neu fentrau gwirfoddol eu hunain. Os hoffech chi helpu ac ymuno â nhw, mae dolenni i’r gwahanol ymddiriedolaethau isod. Yn aml, nid oes angen profiad blaenorol gan y byddant yn darparu’r hyfforddiant, yr offer a’r arweiniad.

Ffyrdd eraill o gymryd rhan…

Canfod ac Adrodd am Lygredd Afonydd

Ydych chi’n cerdded ar hyd eich afon leol yn rheolaidd? Allwch chi adnabod arwyddion o lygredd? Mae gennym ganllaw syml i’ch helpu i’w ganfod – a gwybod beth i’w wneud.

 

“The Big River Watch”

 Ym mis Medi 2023, bydd ap newydd yn cael ei lansio ledled y DU a fydd yn caniatáu i unrhyw un roi gwybod am unrhyw beth y maent yn dod ar ei draws wrth gerdded wrth ymyl afon. Gweler yma am ragor o wybodaeth.

 

Cynlluniau Gwyddoniaeth Dinasyddion yr Ymddiriedolaethau Rhanbarthol:

Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru

Mae Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru yn grymuso unigolion i ddod yn llysgenhadon dros eu hafonydd lleol, gan weithio gyda’i gilydd i amddiffyn ac adfer yr adnoddau naturiol gwerthfawr hyn.

Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru

Mae Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru  yn cynnal eu cynllun llwyddiannus “Mabwysiadu Llednant”, sy’n helpu pobl i amddiffyn rhan o’u hafon leol a’i gwella ar gyfer bywyd gwyllt.

Sefydliad Afonydd Gwy ac Wysg

Ar hyn o bryd mae’r Sefydliad yn chwilio am ddinesydd-wyddonwyr ar gyfer eu Prosiect Castco ar yr afon Wysg. Darperir rhagor o wybodaeth gan Bartneriaeth Dalgylch Gwy.

Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren

Mae Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren yn cynnal eu prosiect CASTCO eu hunain. Maent yn chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer hynny ynghyd ag amrywiaeth o weithgareddau eraill, gan gynnwys gwaredu rhywogaethau ymledol.

Ymddiriedolaeth Afonydd Dyfrdwy Cymru

Mae mentrau gwyddoniaeth dinasyddion Ymddiriedolaeth Afonydd Dyfrdwy Cymru  yn amrywio o fonitro llygredd a samplu micro plastigion i’n cynorthwyo i adnabod infertebratau fel pryfed afon.