Rhagfyr 2023
Ar noson hydrefol ym 1880, bu terfysg mewn tref yng nghanolbarth Cymru. Mor ffyrnig oedd y terfysg fel yr adroddwyd bod un dyn wedi bod yn ffodus i ddianc gyda’i fywyd.
Achos yr aflonyddwch? Eog yr Iwerydd. Nid eu prinder na’u difodiant oedd dan sylw, ond yn hytrach eu digonedd toreithiog ac, yn benodol, ymdrechion beiliaid dŵr i atal trigolion Rhaeadr rhag cymryd eu cyfran o’r toreth naturiol o afon Elan gerllaw.
Bu 1880 yn flwyddyn o nifer o ddigwyddiadau potsio pysgod dramatig yn yr ardal. Ar y noson honno ym mis Tachwedd, digwyddodd “Terfysg Beca” fel y’i disgrifiwyd yn y wasg (wedi’i enwi ar ôl cyfnod o wrthdaro gwledig cynharach yn y ganrif) pan fu i griw o 68 o botswyr gymryd tua ugain o eogiaid o afon Elan, gyda chefnogaeth tyrfa o bobl leol. Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, adroddwyd bod tua 100 o “Becaiaid” wedi bod yn trywanu eogiaid ar yr afon Gwy (y mae afon Elan yn llednant ohoni). Yn ofni dial creulon gan y pysgotwyr, safodd y beiliaid lleol a’r heddlu o’r neilltu wrth i’r pysgod gael eu tynnu. Penderfyniad doeth yn ôl pob tebyg o ystyried i un dyn a feiddiodd fynegi anfodlonrwydd gael ei gludo i’r ysbyty gydag asennau wedi torri.
Yn gynharach y flwyddyn honno adroddodd y Cambrian News am ddigwyddiad potsio ar raddfa fawr arall, tro hwn ym mis Ionawr:
“Pysgotwyd pob rhyd ar afon Elan, a daliwyd llawer iawn o eogiaid. Dywedir bod y potswyr wedi gwthio’r pysgod yn agored drwy strydoedd y dref a’u hanfon i ffwrdd mewn llwythi o gerbydau.”
Gang potsio eogiaid yn gweithio afon yn nalgylch uchaf Afon Gwy (yn ôl pob tebyg ddechrau’r 1900au).
Gyda’i tharddiad yn uchel ym mryniau Ceredigion (a elwir yn Elenydd), llifai Afon Elan ar un adeg am tua phum milltir ar hugain i’r de-ddwyrain gan ymuno â’r Afon Gwy ychydig filltiroedd i lawr yr afon o Rhaeadr Gwy. Hyd at y 1890au, roedd Afon Elan yn doreithiog o eogiaid. Ym mis Ebrill 1892, fodd bynnag, nid felly y cyflwynwyd y sefyllfa i ASau yn San Steffan gan y peiriannydd sifil James Mansergh, a oedd wedi ymgymryd â’r her o ddatrys problemau cyflenwad dŵr Birmingham.
Ar y pryd, roedd ail ddinas Lloegr yn rhedeg allan o ddŵr glân. Roedd ei ehangu cyflym yn ystod y cyfnod diwydiannol yn golygu bod poblogaeth gynyddol bellach yn dioddef achosion o glefydau a gysylltir fel arfer â chyflenwadau dŵr aflan: colera a theiffoid yn arbennig. Er gwaethaf y potsio a’r terfysg, adroddodd y Western Mail fod Mansergh wedi dweud wrth ASau nad oedd “…bron dim pysgota eog o amgylch yr Elan, a bach iawn o ardaloedd silio.”
Nid yw’n glir a dderbyniwyd hyn fel disgrifiad cywir ond o dan bwysau gan gyngor y ddinas, pasiodd y Senedd Ddeddf Dŵr Corfforaeth Birmingham ym 1892, gan ganiatáu i dir yng nghanolbarth Cymru gael ei brynu’n orfodol i adeiladu argaeau a chreu cyflenwad dŵr newydd.
Yr Afon Elan
Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu cyfres o argaeau mawr yng Nghwm Elan yn fuan y flwyddyn ganlynol. Naw mlynedd yn ddiweddarach, ar 21aino Orffennaf 1904, dechreuodd y dŵr a oedd wedi’i fwriadu ar gyfer Cas-gwent a Môr Hafren, lifo yn hytrach, 60 milltir i’r gogledd-ddwyrain, i Gronfa Ddŵr Frankley a oedd newydd ei chloddio ar ymylon de-orllewin Birmingham.
Roedd Argaeau Elan a’u dyfrbont yn gampwaith peiriannol Fictoraidd. Fodd bynnag, i ecoleg a bywyd gwyllt yr Elan, roedd y rhan hon o ddalgylch afon Gwy bellach wedi newid am byth. Yn ogystal â newidiadau sylfaenol mewn geomorffoleg, cemeg a thymheredd y dŵr, roedd yr argaeau wedi cau blaenddyfroedd yr Elan rhag eogiaid yr Iwerydd a arferai silio a meithrin eogiaid ifanc yno.
Er i Mansergh leihau’r effeithiau negyddol ar yr amgylchedd yn ei araith i San Steffan, cydnabuwyd effeithiau tebygol yr argaeau ar stociau pysgod Elan a Gwy. Roedd cynlluniau lliniaru ar gyfer y silfeydd a gollwyd yn cynnwys gwella mynediad pysgod i lednentydd cyfagos a sefydlu cronfa barhaol a dalwyd amdani gan Gorfforaeth Birmingham i wella pysgodfeydd Gwy, cronfa sy’n dal i fodoli heddiw ac a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Ym 1907, dair blynedd ar ôl i’r argaeau gael eu cwblhau, adroddodd The Evening Express (papur newydd o Gaerdydd) fod:
“Mae’r Afon Elan, o’i chymer â’r Gwy hyd at argae Caban Coch yng Ngwaith Dŵr Birmingham, yn llythrennol yn byrlymu o eogiaid” a thrwy sefyll ar un o bontydd-troed yr Elan, ”gellir cyfrif cymaint â hanner cant o eogiaid mewn cynifer o eiliadau.”
Dechrau’r gwaith ar adeiladu’r isaf o argaeau Elan, Caban Coch, ym 1892.
“Cwm Elan”, tŷ lle’r oedd y bardd Shelley yn aros yn aml ond a gollwyd i’r dyfroedd ar ôl i’r argaeau gael eu hadeiladu. Defnyddiwyd “Cwm Elan” i gartrefu peirianwyr yn ystod y cyfnod adeiladu, ond cafodd ei ddymchwel cyn iddo gael ei foddi.
Mae’r papur newydd hefyd yn adrodd am fenter gan Gorfforaeth Birmingham i greu gwelyau silio artiffisial islaw’r argae isaf, Caban Coch. Amcangyfrifwyd bod dros 500 o eogiaid wedi mynd yn sownd rhwng y coredau hyn, heb allu symud ymhellach i fyny’r afon. Ni fyddai’r gwelyau silio artiffisial hyn yn bodoli yn hir: ym 1932 nododd JA Hutton nad oedd eogiaid bellach yn silio yn union islaw argae Caban Coch a’u bod bellach ond i’w cael yn ardaloedd isaf yr Elan.
Erbyn dechrau’r 21ain ganrif, roedd ecoleg yr Elan wedi dirywio’n ddifrifol. Er bod y graean yn y 5 milltir o afon islaw Caban Coch wedi golchi’n raddol i lawr yr afon yn eu ffordd naturiol, roedd yr argaeau wedi atal unrhyw raean arall ddod yn ei le. Roedd cerrig a chreigiau noeth yn lle’r graean sydd mor hanfodol i bysgod ac infertebratau allu byw ynddo.
Graean newydd yn cael ei gyflwyno gan Sefydliad Gwy ac Wysg i’r Elan islaw’r argae isaf. Mae’r graean hwn yn cael ei bentyrru ar y lan yn barod i lif y gaeaf ei ddosbarthu’n naturiol yn yr afon.
O fewn pedair blynedd i ddechrau prosiect ailgyflenwi graean yr Elan, cofnodwyd bod nifer yr eogiaid ifanc wedi cynyddu ugain gwaith. Daliwyd y silod mân hyn yn ystod arolygon electrobysgota yn yr Elan yn 2017.
Taflen ffeithiau Afon Elan i’w lawrlwytho
Yn 2016, lansiwyd menter newydd i adfer graean coll yr afon gan Sefydliad Gwy ac Wysg, Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Cyflwynwyd miloedd o dunelli o raean newydd i’r Elan ychydig islaw’r argaeau, wedi’u caffael o safleoedd ar ran uchaf y Gwy ac ymhellach i fyny’r afon Elan.Cafwyd canlyniadau cadarnhaol bron yn syth. Erbyn 2020 ac ar ôl pedwar ailgyflenwad o raean, roedd pysgod yn dechrau dychwelyd yn ei niferoedd. Gwelwyd eogiaid unwaith eto yn silio ychydig islaw’r argaeau ac roedd arolygon electrobysgota wedi cofrestru cynnydd o ugain gwaith yn nifer yr eogiaid ifanc yn yr Elan. Roedd poblogaethau infertebratau wedi dechrau gwella, ynghyd a rhywogaethau pysgod eraill (fel brithyll a phenlletwad) ynghyd â glas y dorlan a chrehyrod. Dangosodd llwyddiant y prosiect yr hyn y gellid ei gyflawni trwy gynyddu graean, ac arweiniodd at fentrau tebyg ar yr Wysg a’r Taf.
O’r cychwyn cyntaf, rhagwelwyd mai’r anhawster mwyaf wrth adeiladu ar y prosiect a’i gynnal byddai dod o hyd i safleoedd ffynhonnell graean. Yn anffodus, daeth y rhagfynegiad hwnnw’n wir. Er bod gan yr Elan i fyny’r afon o’r argaeau ddyddodion mawr o raean afon (fel sydd gan ei llednant y Claerwen) a’i bod yn ffynhonnell naturiol i’r afon islaw, mae’r ardal yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Dangoswyd bod safleoedd ffynhonnell yn adfer yn gyflym ond mae angen ystyried pob amser y risgiau i SoDdGA o echdynnu graean.
Mae hyn wedi golygu, yn lle’r ychydig gannoedd o dunelli o raean y flwyddyn oedd eu hangen, fod Sefydliad Gwy ac Wysg wedi cael trafferth cyflwyno hanner y swm hwnnw yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Wedi’r llwyddiannau cynnar, mae niferoedd yr eogiaid wedi gostwng eto, ond nid i’r un lefelau isel cyn dechrau’r prosiect. Er gwaethaf yr anawsterau hyn, mae Sefydliad Gwy ac Wysg wedi parhau i chwilio am safleoedd ffynhonnell hyfyw newydd. Ac mae rheswm da dros hynny: mae’r Elan yn cynrychioli 7% o ardal silio eogiaid y Gwy ac mae’n dod yn fwyfwy pwysig i’r rhywogaeth bysgod hon sydd dan fygythiad yma. Cyn belled â bod y cynefin yn iawn, gall llifau rheoledig yr argaeau roi rhywfaint o loches iddynt rhag eithafion tymheredd a llif wrth i newid hinsawdd ddigwydd.
Nid dyna ddiwedd ar bwysigrwydd yr Elan i eogiaid yr afon Gwy. Hyd yn oed yn ôl ym 1892 awgrymwyd, yn ogystal â chronfa lliniaru’r argaeau, “y dylid cynyddu’n sylweddol y cyflenwad o dŵr digolledu a anfonir i lawr y nentydd fel y’i cynigir nawr.”Fodd bynnag, nid tan 2016 a gweithredu argymhellion Grŵp Tynnu Dŵr Gwy ac Wysg (UWAG) y dechreuodd gollyngiadau o gronfeydd dŵr Elan helpu eogiaid a rhywogaethau pysgod eraill. Wedi’i ffurfio o Sefydliad Gwy ac Wysg, Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, sicrhaodd gwaith arloesol UWAG fod gollyngiadau dŵr o argaeau Elan yn cynorthwyo mudo eogiaid trwy ryddhau dŵr ychwanegol i ategu at lifeiriant yr haf sy’n hanfodol ar gyfer eu taith i fyny’r afon. Yr un mor bwysig, os byddai’r llif yn rhan isaf Afon Gwy yn gostwng yn agos at y lefel isaf sydd ei hangen ar eogiaid i fynd i mewn i’r afon, argymhellodd UWAG ryddhau dŵr ychwanegol i leihau marwolaethau yn yr aberoedd.
Diolch i waith Grŵp Tynnu Dŵr Gwy ac Wysg, mae dŵr bellach yn cael ei ryddhau o Gaban Coch i helpu eogiaid a rhywogaethau eraill yn Elan a’r Gwy.
Ni ellir tanbrisio llwyddiant UWAG. Er bod eu gwaith wedi canolbwyntio ar eogiaid, cafwyd buddion ehangach i ecoleg yr Elan a’r Gwy hefyd. Mae rhyddhadau y dŵr hyn mor arwyddocaol fel y byddai unrhyw un sy’n anghyfarwydd â’r Elan a Gwy, wrth sefyll wrth eu cymer yn ystod haf sych yn cael anhawster gwybod pa un oedd y brif afon a pha un oedd y llednant.
Ym mis Rhagfyr 2023, nododd yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) fod niferoedd eogiaid yr Iwerydd byd-eang wedi gostwng 23% rhwng 2006 a 2023 a bod y rhywogaeth bellach mewn perygl yn y DU. Mae’n amlwg bod rhaid gwneud popeth posibl i’w diogelu a’u gwarchod.Er bod y dyddiau pan oedd llwythi o eogiaid Elan a ddaliwyd yn anghyfreithlon yn bwydo cegau newynog y fro bellach yn hen, hen hanes, mae gan yr afon hon rôl arwyddocaol o hyd i’w chwarae yng ngoroesiad y rhywogaeth hon yn y dyfodol.
Diolch i Sefydliad Gwy ac Wysg am eu cymorth gyda gwybodaeth a lluniau.
Postio:
December 21, 2023

