Awst 2024
Ar 11eg Rhagfyr 1282 ger Cilmeri yng nghanolbarth Cymru, trywanodd milwr o fyddin Edward I ymladdwr Cymreig â’i waywffon. Ar y pryd, nid oedd Stephen de Frankton yn ymwybodol mai Llywelyn ap Gruffydd, arweinydd byddin y Cymru oedd newydd gael ei threchu gerllaw ym Mrwydr Pont Orewin (Pont yr Irfon), oedd y person yr oedd newydd ei glwyfo’n angheuol. Ar gyrion Cilmeri, ger glannau afon Irfon saif cofeb heddiw i nodi marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf – sef y Tywysog Cymru Cymraeg olaf.
Mae’r Irfon yn un o dair prif lednant y Gwy uchaf. Mae’n tarddu ar lethrau Drygan Fawr i’r gorllewin o argaeau Dyffryn Elan ac yn llifo tua’r de i ddechrau, gan fynd heibio “Grisiau’r Diafol” cyn troi i lawr ddyffryn serth o’r enw Camddwr Bleiddiad, neu Geunant y Bleiddiaid, a honnir i fod y lleoliad lle lladdwyd y blaidd olaf yng Nghymru.
Camddwr Bleiddiau, neu Geunant y Bleiddiaid yn edrych i fyny afon Irfon tuag at Risiau’r Diafol.
Cynhelir pencampwriaethau blynyddol “snorclo’r gors y byd” yng Nghwm Irfon ger Llanwrtyd.
Afon Irfon i fyny’r afon o Grisiau’r Diafol. Mae coedwigo masnachol ym mlaenddyfroedd Afon Irfon wedi gwaethygu problemau ansawdd dŵr yr afon.
Lawrlwytho Taflen ffeithiau Irfon
Cimwch yr afon brodorol ac isod, y cimwch afon America mwy nodedig.
O’r fan honno mae’r afon Irfon yn llifo trwy Abergwesyn a Llanwrtyd, y dref leiaf ym Mhrydain, sy’n gartref i’r digwyddiadau blynyddol enwog “Snorclo’r Gors” ac “Ras Dyn yn Erbyn Ceffyl.” Gan lifo wedyn i gyfeiriad mwy gorllewinol, mae’n cyrraedd Llangamarch lle honnir i’r arwerthiant gwragedd olaf yng Nghymru gael ei chynnal mewn gwesty lleol. Tua 45km o’i tharddiad, mae’r afon Irfon yn ymuno â’r afon Gwy yn Llanfair-ym-Muallt.
Credir bod enw’r afon yn dod o’r gair Cymraeg am ffres (“ir”) ac afon (“afon”), i gydnabod purdeb ei dŵr. Ym 1732, honnodd y ficer lleol Theophilus Evans fod dŵr yr afon yn Llanwrtyd wedi ei iachau o’r llwg . Erbyn oes Fictoria roedd y tair tref “ffynnon” ar hyd yr afon yn denu nifer fawr o dwristiaid oedd yn yfed dŵr y o ffynhonnau cyfagos i wella afiechydon megis gowt, gwynegon a chlefyd y galon.
Roedd ecoleg Afon Irfon yn iach iawn bryd hynny, heb y pyllau glo, y diwydiant trwm na’r trefi mawr a ddinistriodd ansawdd dŵr nifer o afonydd Cymru i’r de. Roedd eogiaid yr Iwerydd yn doreithiog, yn ogystal â brithyll, dyfrgwn ac amrywiaeth o rywogaethau eraill. Adroddwyd bod eog enfawr 45 pwys wedi’i ddal yn Afon Irfon ddechrau’r 1880au.
Dirywiad yr Irfon
Ond, erbyn diwedd yr 20fed ganrif roedd yr afon mewn cyflwr gwael ac nid oedd bellach yn cyfiawnhau ei henw. Roedd llifoedd difrifol o asid yn effeithio ar ansawdd y dŵr yn y rhannau uchaf, gan ddileu’r infertebratau oedd yn bwydo eogiaid ifanc a brithyll yr afon, hyd yn oed yn lladd wyau pysgod a oedd wedi’u claddu yn y graean dihalog ac yn niweidio tagellau’r oedolion. Roedd hyn, ynghyd a dirywiad cynefinoedd eang, yn golygu bod niferoedd yr eogiaid yn lleihau’n sylweddol ac nad oedd yr Irfon bellach yn hafan i’r pysgod mawr yr oedd yr Afon Gwy yn enwog amdanynt ar un adeg.
Roedd glaw asidig a daeareg leol a oedd yn methu â chynnal y pH, ynghyd â chynnydd mawr mewn coedwigaeth gonwydd fasnachol ym mlaenddyfroedd yr Irfon, yn rhannol gyfrifol. Roedd draeniau’r goedwigaeth yn dileu’r ychydig allu oedd gan y tir i amsugno’r asidedd trwy ei fflysio’n uniongyrchol i’r afon. Yn ogystal, roedd y defnydd cynyddol o bryfleiddiaid pwerus, gwenwynig iawn megis pyrethroid synthetig, yn peri dirywiad pellach i ansawdd y dŵr.
Cimychiaid yr Afon
Nid eogiaid oedd yr unig rywogaeth i ddioddef. Mae’r afon yn gartref i rywogaethau gwarchodedig eraill sydd hefyd yn dibynnu ar ansawdd dŵr da fel llywenod, penlletwad a dyfrgwn. Mae cregyn gleision perlog dŵr croyw yn bresennol yn yr estyniadau canol ac isaf, yn yn ogystal â chimychiaid yr afon (Austropotamobius pallipes).
Fel pob infertebrat, mae unig gimwch yr afon brodorol y DU hefyd mewn perygl oherwydd cynnydd sydyn mewn asidedd a phryfladdwyr. Er bod yr Irfon yn parhau i fod yn gartref pwysig i gimwch yr afon brodorol, bu dirywiad sylweddol yn eu dosbarthiad a’u niferoedd rhwng 1970 a 2010 – cyfnod a welodd gynnydd yn y defnydd o dipiau defaid pwerus.
Adfer bywyd yn yr Irfon
Yn 2010, lansiodd Sefydliad Afonydd Gwy ac Wysg a’i bartneriaid, brosiect pedair blynedd a ariannwyd gan LIFE+ yr Undeb Ewropeaidd (€1.27m) i adfer afon Irfon a gwarchod ei rhywogaethau prin, gan gynnwys cimychiaid yr afon brodorol. Ymhlith eu hamcanion, roedd prosiect Ardal Cadwraeth Arbennig Irfon (ISAC) yn cynnwys calchu blaenddyfroedd yr Irfon i ddiddymu’r cynydd sydyn mewn asid, rhwystro rhai draeniau coedwigaeth er mwyn arafu llif dŵr, gwella cynefinoedd pysgod ac infertebratau ac ailgyflwyno cimychiaid brodorol a fagwyd yng nghyfleuster ymchwil Cyfoeth Naturiol Cymru ger Aberhonddu.
Mae gwaith adfer yr Afon Irfon gan y Sefydliad ac eraill wedi parhau ers hynny ond cyflawnodd prosiect ISAC rai canlyniadau trawiadol. Bu gwelliant mewn ecoleg y rhannau uchaf drwy galchu a rhwystro’r draeniau tra bod y gwaith adfer cynefinnoedd bron ar unwaith wedi cynyddu nifer yr eogiaid ifanc ar y safleoedd gwell dros 238% ar gyfartaledd. Er gwaethaf cyfnodau ansicr ers hynny, mae niferoedd yr eogiaid ifanc yn parhau’n gymharol iach yn yr Irfon. Mae arolygon electrobysgota 2024 wedi dangos rhai canlyniadau addawol iawn.
Y Pla
Yn anffodus, nid yw hynny’n wir am gimychiaid yr afon brodorol. Yn ogystal ag ansawdd dŵr gwael, y bygythiad mwyaf i’r rhywogaeth hon yw’r cimwch afon America ymledol (Pacifastacus leniusculus), a gyflwynwyd i Brydain yn y 1970au ar gyfer ei ffermio. Nid yn unig y mae’r rhywogaeth ymledol yn cystadlu yn erbyn, ac yn trechu’r rhywogaeth frodorol, mae hefyd yn dod ag afiechyd a elwir yn gyffredin yn “bla cimwch yr afon,” sydd bron bob amser yn angheuol i’n cimychiaid yr afon brodorol.
Yn gynharach yr haf hwn, canfuwyd nifer sylweddol o gimychiaid yr afon marw yn yr Irfon, ac wedi hynny cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru achos o’r pla. Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i gadw draw o’r afon ac i ddilyn protocolau “Gwiriwch, Glanhewch a Sychwch priodol os am fynd mewn i ddyfrffyrdd eraill yn yr ardal.
Gobeithio nad dyma ddiwedd ar gimychiaid yr afon nac “olaf” arall i’r Irfon. Er bod rhesymau da dros deimlo’n bositif am yr afon, mae digwyddiadau’r haf hwn yn dangos pa mor bwysig yw bioddiogelwch wrth warchod rhywogaethau prin a pha mor fregus yw ecosystemau afonydd.
Cyfeiriadau a Rhagor o Wybodaeth:
Prosiect ISAC Project – Sefydliad Afonydd Gwy ac Wysg
Prosiect SAC Project, Adroddiad Diwedd Prosiect/End of Project Report
Dyffrynoedd Irfon ac Ieithon/The Vales of Irfon and Ithon – Cyfoeth Naturiol Cymru
Afon Irfon SSSI Citation – Cyfoeth Naturiol Cymru
Cymdeithas Hanes Llangammarch Wells History Society
White-clawed (or Atlantic stream) crayfish Austropotamobius pallipes – JNCC
Postio:
August 29, 2024